Brwydr Ksar el-Kebir
| Enghraifft o: | brwydr |
|---|---|
| Dyddiad | 4 Awst 1578 |
| Rhan o | rhyfeloedd rhwng Moroco a Phortiwgal |
| Rhagflaenwyd gan | gwarchae Mazagan |
| Olynwyd gan | rhagod Mazagan |
| Lleoliad | Ksar el-Kebir |
![]() | |
| Gwladwriaeth | brenhinlin Saadi, Moroco |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/02zxk8 |
Brwydr a ymladdwyd ar 4 Awst 1578 yng ngogledd Moroco, ger tref Ksar el-Kebir, oedd Brwydr Ksar el-Kebir a elwir hefyd yn "Frwydr y Tri Brenin". Trechodd lluoedd y Swltaniaeth Saadi dan orchymyn y swltan Abu Marwan Abd al-Malik gynghrair o luoedd (Mwriaid ac Ewropeaid) dan orchymyn y cyn-swltan Abu Abdalah a Sebastião, brenin Portiwgal.
Bu farw y swltan Abd al-Malik o achosion naturiol yn ystod y brwydr; boddwyd Abu Abdalah wrth geisio ffoi; a diflannodd y brenin Sebastião – mae bron yn sicr iddo gael ei ladd yn ystod yr ymladd. Cafodd y trechiad ddylanwad enfawr ar hanes Portiwgal wedi hynny. Bu tua 9,000 o farwolaethau ymhlith Cristnogion, gan gynnwys llawer o uchelwyr Portiwgal, a thua 16,000 o garcharorion. Gwnaeth y canlyniad argraff fawr ar lysoedd Cristnogol Ewrop.
Y frwydr hon yw tarddiad myth "Sebastianiaeth", hynny yw, y syniad y byddai'r brenin Sebastião yn dychwelyd ryw ddydd i adfer ei genedl.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Pierre Berthier, La Bataille de l'oued el-Makhazen: dite bataille des Trois Rois (Paris, 1985)
