Brwydr Cannae
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | brwydr ![]() |
Dyddiad | 2 Awst 216 CC ![]() |
Rhan o | Ail Ryfel Pwnig ![]() |
Lleoliad | Cannae ![]() |
![]() | |
![]() |
Ymladdwyd Brwydr Cannae ar 2 Awst 216 CC gerllaw Cannae, yn Apulia yn ne-ddwyrain yr Eidal, rhwng byddin Garthaginaidd dan Hannibal a byddin Gweriniaeth Rhufain dan y ddau gonswl, Lucius Aemilius Paullus a Gaius Terentius Varro. Roedd yn un o frwydrau mwyaf yr Ail Ryfel Pwnig, ac yn un o fuddugoliaethau mwyaf Hannibal.
Diweddodd y frwydr mewn buddugoliaeth fawr i Hannibal a'r Carthaginiaid. Lladdwyd tua 50,000 o Rufeiniaid; un o'r colledion mwyaf mewn un diwrnod o frwydro mewn hanes. Yn eu plith roedd y conswl Aemilius Paullus. Roedd colledion y Carthaginiaid yn llawer llai.