Neidio i'r cynnwys

Brwydr Afon Medway

Oddi ar Wicipedia
Brwydr Afon Medway
Enghraifft o:brwydr Edit this on Wikidata
Dyddiad43 Edit this on Wikidata
Rhan ogoresgyniad Prydain gan y Rhufeiniaid Edit this on Wikidata
LleoliadAfon Medway Edit this on Wikidata
Map
Dynodwyr
Freebase/M/02cdjw edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Brwydr fawr yn y flwyddyn OC 43 oedd Brwydr Afon Medway. Fe'i ymladdwyd rhwng llwyth Celtaidd y Catuvellauni a'r Rhufeiniaid ar lan Afon Medway, ar safle rhywle yng nghyffiniau Rochester. Caradog a’i frawd Togodumnus a arweiniodd lluoedd y Catuvellauni yn erbyn y fyddin Rufeinig dan Aulus Plautius[1][2]. Gorchfygwyd hwy gan y Rhufeiniaid yn y frwydr honno ac mewn brwydr arall ar lan Afon Tafwys wedyn a chymerodd y llengoedd feddiant ar diriogaethau’r llwyth. Lladdwyd Togodumnus yn y brwydro, ond dihangodd Caradog tua’r gorllewin i deyrnas y Silwriaid.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Phil Barker (2016). Armies and Enemies of Imperial Rome. t. 60.
  2. Medieval Art, Architecture and Archaeology at Rochester. British Architectural Association. 2006. t. 1.