Brwydr Abergwili

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Brwydrau yng Nghymru: Cyfnod y Sacsoniaid


Yn 1022 cipiodd Llywelyn ap Seisyll deyrnas Deheubarth, gan ennill buddugoliaeth dros Rhain, Gwyddel oedd yn honni bod a hawl i'r deyrnas, ym Mrwydr Abergwili, a ymladdwyd yn ardal Abergwili, Dyffryn Tywi.

Yn ôl Brut y Tywysogion, yr oedd teyrnasiad Llywelyn yn gyfnod llewyrchus, ond bu farw yn annisgwyl yn 1023.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.