Brouvelieures
Jump to navigation
Jump to search
Brouvelieures | ||
---|---|---|
Commune | ||
![]() Sainte-Croix | ||
| ||
Gwlad | Ffrainc | |
Rhanbarth | Alsace-Champagne-Ardenne-Lorraine | |
Département | Vosges | |
Arrondissement | Saint-Dié-des-Vosges | |
Canton | Bruyères | |
Intercommunality | CC Bruyères - Vallons des Vosges | |
Arwynebedd1 | 7.36 km2 (2.84 mi sg) | |
Poblogaeth (2006)2 | 530 | |
• Dwysedd | 72/km2 (190/mi sg) | |
Parth amser | CET (UTC+1) | |
• Summer (DST) | CEST (UTC+2) | |
INSEE/Postal code | 88076 / 88600 | |
Uchder |
347–545 m (1,138–1,788 ft) (cyfart. 392 m neu 1,286 ft) | |
1 Data o Gofrestr Tir Ffrainc, sy'n hepgor llynnoedd, pyllau, rhewlifau > 1 km² (0.386 sq mi neu 247 erw) ac aberoedd yr afonydd. |
Mae Brouvelieures yn gymuned yn Département Vosges yn Rhanbarth Dwyrain Mawr, Ffrainc. Mae'r gymuned wedi'i leoli ar lan yr afon Mortagne, mae’n 16 km oddi wrth Rambervillers, 22 km o Saint-Dié-des-Vosges a 28 km o Épinal. Y trefi agosaf (llai na 5 km) yw Domfaing, Vervezelle, Bruyères, Champ-le-Duc, Mortagne a Belmont-sur-Buttant.
O herwydd dewrder ei thrigolion yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn enwedig yn ystod Brwydr Bruyères, dyfarnwyd Croix de Guerre 39-45 i’r gymuned ar 11 Tachwedd, 1948.
Poblogaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Safleoedd a Henebion[golygu | golygu cod y dudalen]
- Eglwys y Groes Sanctaidd, adeiladwyd rhwng 1786 a 1790. Mae'n gartref i allor uchel wedi'i cherfio allan o dderw yn y 18 ganrif a chofrestrwyd fel heneb o bwys cenedlaethol ym 1965)[1]. Mae hefyd yn cynnwys nifer o baentiadau megis Addoliad y Bugeiliaid o 1628, sydd wedi ei briodoli i Claude Bassot[2], peintiad mawr o'r 17g, sy'n cynrychioli Addoliad y Doethion a phaentiad yn darlunio Crist a oedd yn rodd i’r eglwys gan Napoleon III.
- Croes hen fynwent Brouvelieures, croes haearn o’r 18g yn arddull Louis XV, wedi ei ddynodi’n heneb ers 1937[3]
- Château de la Forge a gwaith metel o'r enw Forge de la Mortagne a adeiladwyd tua 1880.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
|