Bronwen Naish

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Bronwen Naish
Ganwyd 1938 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Cerddor Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Y Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata

Cerddor a gwleidydd Cymreig yw Bronwen Naish (ganwyd 19 Tachwedd 1939).[1]

Ganwyd Naish yn Burley, Hampshire a mynychodd Ysgol Gyfun Caergybi, Ynys Môn, a Coleg Frenhinol Cerddoriaeth Manceinion. Bu'n athrawes yn ystod yr 1960au a'r 1970au yn dysgu'r sielo a'r bas feiol. Ar frig ei gyrfa hi oedd yr unig chwaraewr bas feiol benywaidd yn y byd, ac un o chwaraewyr mwyaf blaengar yr offeryn yn y Deyrnas Unedig.[2]

Cyhoeddodd lyfr, Another String to My Bow, ym 1981.[3]

Naish oedd ymgeisydd y Blaid Geidwadol ar gyfer etholaeth Caernarfon yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 1999. Bu hefyd yn ymgeisydd ar gyfer etholaeth seneddol Caernarfon yn Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig 2001.[2]

Mae Naish wedi ysgaru, a chafodd bump o blant. Mae'n byw yn ardal Garndolbenmaen.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  Who's Who 2004. Who's Who. Adalwyd ar 3 Mehefin 2016.
  2. 2.0 2.1  Vote 2001 Candidate: Bronwen Naish. BBC.
  3. Bronwen Naish (22 Mehefin 1981). Another String to My Bow. Pelham Books. ISBN 978-0720713176


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.