Bronwen Lewis
Bronwen Lewis | |
---|---|
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | cyflwynydd radio ![]() |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, Cerddoriaeth Cymru, Cerddoriaeth pop a roc Cymreig ![]() |
Cantores, cyfansoddwraig a chyflwynydd radio o bentref Blaendulais yng Nghwm Dulais yw Bronwen Lewis (ganwyd c.1989)[1]. Mae'n gweithio'n Gymraeg ac yn Saesneg ac yn adnabyddus fel un o feirniaid cyfres gyntaf y Llais yn 2025. Mae ganddi ddilyniant brwd ar y cyfryngau cymdeithasol.
Bywyd cynnar a phersonol
[golygu | golygu cod]Magwyd Lewis yng Nghwm Dulais ger Castell Nedd mewn teulu creadigol a cherddorol, gyda'i thad, ei hewythr a'i thaid i gyd yn rhan o'r un côr a'i mam, a astudiodd argraffu a dylunio mewnol. Bu'n canu'r piano ers yn 5 oed a dysgodd ganu'r gitâr i'w hun yn 13 oed.
Astudiodd Graffeg a Darlunio yng Ngholeg Celf a Dylunio Central Saint Martins yn Llundain.[2]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Daeth i amlygrwydd drwy wledydd Prydain yn dilyn ei chlyweliad dall ar gyfer Cyfres 2 o'r fersiwn Brydeinig o The Voice gan ganu fersiwn o'r gân ‘Fields of Gold’ gan Sting yn y Gymraeg a'r Saesneg.[2]
Yn dilyn hynny cafodd ran yn y ffilm Pride a enillodd wobr BAFTA, gan ganu cân o'r enw Bread and Roses.
Rhyddhawyd ei halbwm cyntaf, ‘Home’, yn 2016 ac fe gyrhaeddodd Record yr Wythnos ar BBC Radio Wales.
Mae'n gigio ar hyd a lled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys sawl taith gyda'r canwr a'r perfformiwr, Max Boyce.[2]
Cyhoeddodd albwm 'Live in Swansea' gyda Max Boyce yn 2019.[3]
Rhyddhaodd ei albwm nesa, 'Canvas', yn 2021.[4]
Yn ystod y cyfnod clo a achoswyd gan Covid-19 yng Ngymru, enillodd Bronwen gefnogaeth enfawr ar y cyfryngau cymdeithasol pan berfformiodd dros 45 o gyngherddau, fwy neu lai, o'i stiwdio gartref. Aeth ei fideos TikTok, oedd yn cynnwys fersiynau iaith Gymraeg o ganeuon Saesneg adnabyddus, yn firal hefyd. Daeth hyn â sylw iddi ar Sioe Frecwast BBC Radio 1 gyda Greg James.[5]
Gyrfa Radio
[golygu | golygu cod]Bu i lwyddiant a chymeriad agos-atoch Lewis arwain iddi fod yn rhan o sgwrs ddwywaith ar BBC Radio 1 gyda'r DJ Greg James. Gofynnodd cynhyrchydd Greg iddi ysgrifennu dolen gerddorol newydd ar gyfer y sioe a recordio trac dwyieithog, ‘Friday’ gan Riton x Nightcrawlers ar gyfer Radio 1 yn unig, y gwnaethant ei chwarae i dros 5 miliwn o wrandawyr.
Dechreuodd gyflwyno raglen ar ddydd Sul i BBC Radio Wales ym mis Mawrth 2023.[5]
Yn Ebrill 2025 bu iddi gyflwyno ar BBC Radio 2 dros gyfnod o hoe gan y cyflwynydd Cymraeg arall, Owain Wyn Evans ar fore Iau 25 Ebrill 2025 rhwng 4.00-6.30am.[6]
Y Llais
[golygu | golygu cod]Yn 2025, roedd Lewis yn un o hyfforddwyr y Llais, fersiwn Gymraeg o fformat cystadleuaeth canu fyd-eang, The Voice ynghyd â Bryn Terfel, Yws Gwynedd, ac Aleighcia Scott.[7]
Ymysg uchafbwyntiau'r gyfres oedd i'r ymgeisydd Emma Winter berfformio fersiwn o gân a gyfansoddwyd gan Bronwen, 'Ti a Fi', yn ei chlyweliad i'r beirniaid. Canodd yr athrawes 32 oed o Droed-y-rhiw ym Merthyr Tudful gân Bronwen a'i dewis i fod ar dîm Lewis.[8]
Recordiau
[golygu | golygu cod]Albymau
[golygu | golygu cod]- Home - 2016
- Live at Swansea - 2019
- Canvas - 2021
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Biography". Gwefan Bronwen Lewis (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Mai 2025.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 "About". Gwefan Bronwen Lewis. Cyrchwyd 23 Ebrill 2025.
- ↑ "Live in Swansea". Gwefan Bronwen Lewis. Cyrchwyd 23 Ebrill 2025.
- ↑ "Bronwen Lewis". Gwefan Connect Music. Cyrchwyd 23 Ebrill 2025.
- ↑ 5.0 5.1 "Social media sensation Bronwen Lewis to join BBC Radio Wales". BBC Wales. 24 Mawrth 2023.
- ↑ "So excited to share ..." Tudalen Facebook Bronwen Lewis Music. 23 Ebrill 2025.
- ↑ "S4C yn cyhoeddi panel beirniaid llawn 'Y Llais'". Golwg360. 23 Mai 2024.
- ↑ "Y Llais: Athrawesyn 'dysgu Cymraeg' i'w disgyblion gyda chaneuon Bronwen Lewis". Newyddion S4C. 10 Chwefror 2025.