Bronisław Piłsudski
| Bronisław Piłsudski | |
|---|---|
| Ganwyd | 21 Hydref 1866 (yn y Calendr Iwliaidd) Zalavas |
| Bu farw | 17 Mai 1918 o boddi Paris |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | anthropolegydd, chwyldroadwr |
| Tad | Józef Wincenty Piłsudski |
| Mam | Maria Piłsudska |
| Llinach | House of Piłsudski |
| Gwefan | http://www.icrap.org/ |
Ymchwilydd o Bwyliad oedd Bronisław Piłsudski (2 Tachwedd 1866 – 17 Mai 1918), a arbenigai yn yr iaith Ainŵeg a diwylliant pobl Ainw.[1]
Bywyd
[golygu | golygu cod]Ganwyd Bronisław Piłsudski yn 1866 i deulu Pwyleg yn Zalavas / Zułów[1] / Зулов, tref sydd bellach yn rhan o Lithwania, ond oedd ar y pryd yn rhan o Ymerodraeth Rwsia. Roedd yn frawd i'r gwladweinydd Józef Piłsudski, a aeth ymlaen i fod yn arweinydd cyntaf Gwlad Pwyl wedi iddi adennill annibyniaeth yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf[2].
Yn 1887, cafodd ei ddal yn cynllwynio'n erbyn y Tsar, ac fe'i hanfonwyd yn alltud i Sachalin.[2] Yno dechreuodd ymddiddori ym maes ethnograffeg ac mewn pobloedd fel yr Ainw, y Nivkh a'r Orok. Fe aeth wedyn i Hokkaidō i barhau i weithio gyda'r Ainw.[1]
Symudodd yn ôl i Ewrop yn 1906, a bu'n gweithio yn Kraków. Pan ddaeth y rhyfel, fe ffodd i'r Swistir, ac yna i Paris, lle bu farw yn 1918[1]. Boddodd yn afon Seine, a tybir iddo ladd ei hun yn dilyn iselder.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 3 4 "Bronisław Piłsudski. Brat Marszałka na Dalekim Wschodzie". Polskie Radio 24 (yn Pwyleg). Cyrchwyd 2025-06-21.
- 1 2 "Nieudany zamach na cara Aleksandra III i nieświadomy współudział Józefa Piłsudskiego". histmag.org. Cyrchwyd 2025-06-21.
{{DEFAULTSORT:Piłsudski, Bronisław)