Broken Blossoms
| Enghraifft o: | ffilm |
|---|---|
| Lliw/iau | du-a-gwyn |
| Gwlad | Unol Daleithiau America |
| Rhan o | Cofrestr Cenedlaethol Ffilmiau |
| Dyddiad cyhoeddi | 13 Mai 1919, 20 Hydref 1919 |
| Genre | ffilm ramantus, ffilm fud, ffilm ddrama, melodrama |
| Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
| Lleoliad y gwaith | Llundain |
| Hyd | 90 munud |
| Cyfarwyddwr/wyr | D. W. Griffith |
| Cynhyrchydd/wyr | D. W. Griffith |
| Cwmni cynhyrchu | Paramount Pictures |
| Cyfansoddwr | D. W. Griffith |
| Dosbarthydd | United Artists, Netflix |
| Iaith wreiddiol | Saesneg |
| Sinematograffydd | Billy Bitzer |
| Sgriptiwr | D. W. Griffith |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0jq5p |
Ffilm ramantus heb sain (na llais) gan y cyfarwyddwr D. W. Griffith yw Broken Blossoms or The Yellow Man and the Girl, a gyhoeddwyd yn 1919. Fe'i cynhyrchwyd yn Unol Daleithiau America. Dyma'r ffilm gyntaf a ddosbarthwyrd gan United Artists.
Mae'r ffilm hon wedi'i seilio ar y stori fer "The Chink and the Child" gan Thomas Burke a gyhoeddwyd yn 1916. Mae'n adrodd hanes merch ifanc sy'n cael ei cham-drin gan ei thad o baffiwr alcoholig; mae hi'n cwrdd â dyn caredig o Tsieina sy'n syrthio mewn cariad â hi. Erbyn y diwedd mae'r tri wedi marw: mae'r ferch yn cael ei lladd gan ei thad meddw, mae'r tad yn cael ei ladd gan y dyn Tsieineaidd, sy'n cyflawni hunanladdiad wedyn.
Y prif actorion yn y ffilm hon yw Lillian Gish, Richard Barthelmess, a Donald Crisp. Cafodd ei ffilmio mewn du a gwyn. Gan fod y ffilm wedi ei chyhoeddi dros 95 mlynedd yn ôl, mae yn y parth cyhoeddus.[1]
Broken Blossoms oedd y ffilm fwyaf poblogaidd y flwyddyn.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cyffredinol: https://www.loc.gov/programs/national-film-preservation-board/film-registry/complete-national-film-registry-listing/. dyddiad cyrchiad: 25 Hydref 2022.