Broadway, Swydd Gaerwrangon
Gwedd
| Math | pentref, plwyf sifil |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Ardal Wychavon |
| Poblogaeth | 3,080, 3,482, 3,025 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Swydd Gaerwrangon (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 1,716.06 ha |
| Cyfesurynnau | 52.04°N 1.86°W |
| Cod SYG | E04010370 |
| Cod OS | SP095375 |
| Cod post | WR12 |
![]() | |
- Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Broadway (gwahaniaethu).
Pentref mawr a phlwyf sifil yn Swydd Gaerwrangon, Gorllewin Canolbarth Lloegr, ydy Broadway.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Wychavon. Saif yn ardal y Cotswolds yn ne-ddwyrain y sir, yn agos at y ffin â Swydd Gaerloyw, tua 5 milltir (8 km) i'r de-ddwyrain o dref Evesham.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 3,080.[2]
Mae gan y pentref deniadol lawer o adeiladau gwych wedi'u hadeiladu o'r garreg leol. Mae wedi dod yn atyniad i dwristiaid, gyda sawl gwesty, deliwr hen bethau, delwyr celf gain, bwytai a chaffis. Yn 2013 agorwyd cangen o Amgueddfa'r Ashmolean mewn tŷ ar y stryd fawr sy'n dyddio o'r 17g.
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Gwesty y Lygon Arms
-
Siopau ar y stryd fawr
-
Hen ysgol ar y stryd fawr, sy'n siop bellach
-
Tai wedi'u hadeiladu o'r garreg leol
-
Tŵr Broadway, ffug-gastell sy'n sefyll ar fryn sy'n edrych dros y pentref
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 4 Rhagfyr 2021
- ↑ City Population; adalwyd 4 Rhagfyr 2021
