Britannia Secunda
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Talaith Rufeinig ar Ynys Prydain oedd Britannia Secunda. Roedd yn un o'r pedair talaith a grewyd tua 293, dan yr ymerawdwr Diocletian; y tair arall oedd Britannia Prima, Maxima Caesariensis a Flavia Caesariensis.
Roedd Britannia Secunda yn cynnwys gogledd Lloegr, ac mae'n bosibl ei bid yn cynnwys rhan o ogledd Cymru. Roedd ei phrifddinas yn Efrog (Eboracum). Yn 369, crewyd talaith newydd, Valentia. Mae ei lleoliad yn ansicr, ond efallai ei bod wedi ei chreu o ran o diriogaeth Britannia Secunda.