Brinley Rees (1916 - 2001)

Oddi ar Wicipedia
Brinley Rees
Ganwyd17 Mai 1916 Edit this on Wikidata
Gorseinon Edit this on Wikidata
Bu farw2001 Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgolhaig Edit this on Wikidata

Ysgolhaig Cymreig oedd Brinley Rees (17 Mai 1916 - 2001)

Ganed ef ym Mhenrhewl, Gorseinon, yn frawd i Alwyn D. Rees. Addysgwyd ef yng Mhrifysgol Aberystwyth, lle graddiodd yn y dosbarth cyntaf mewn Cymraeg yn 1937 ac yn y dosbarth cyntaf mewn Saesneg yn 1938. Aeth ymlaen i gymeryd gradd MA cyn treulio cyfnod fel athro ysgol ym Mhontardawe o 1942 hyd 1946. Yn y cyfnod yma, enillodd Gymrodoriaeth Prifysgol Cymru i dreulio amser yn astudio yn Iwerddon.

Ymunodd â staff Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor yn 1947 a bu yno hyd ei ymddeoliad yn 1982.

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

  • Dulliau'r Canu Rhydd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1952)
  • Ceinciau'r Mabinogi (Bangor, 1975; 2il arg. Gwasg Gomer, 1999)
  • (gyda'i frawd Alwyn D, Rees) Celtic Heritage: Ancient Tradition in Ireland and Wales (Llundain, 1961)