Brigitte Haas
Gwedd
Brigitte Haas | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 1964 ![]() Vaduz ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | gwleidydd, cyfreithiwr ![]() |
Plaid Wleidyddol | Fatherland Union ![]() |
Cyfreithiwr a gwleidydd o Liechtenstein yw Brigitte Haas (ganwyd 1964). Mae hi'n bennaeth llywodraeth penodedig Liechtenstein ers 2025.
Cafodd Haad ei geni yn Vaduz, prifddinas Liechtenstein. Cafodd ei magu yn Schaan. Astudiodd y Gyfraith ym Mhrifysgol Zurich.[1]
Ers 2004, mae Haas wedi bod yn ddirprwy reolwr gyfarwyddwr Siambr Fasnach a Diwydiant Liechtenstein, a'i rheolwr gyfarwyddwr ers mis Awst 2019. Yn etholiadau seneddol Liechtenstein 2025, roedd hi'n aelod o dîm llywodraeth Undeb y Dadwlad ac yn ymgeisydd ar gyfer swydd Pennaeth Llywodraeth Liechtenstein. Gaeth hi ei dyngu fel pennaeth y llywodraeth ar 20 Mawrth 2025, y fenyw gyntaf i ddal swydd Pennaeth Llywodraeth Liechtenstein.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Blank, Valeska (27 Medi 2024). "Für Brigitte Haas könnte sich bald ein Kreis schliessen". Liechtensteiner Vaterland (yn Almaeneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Chwefror 2025. Cyrchwyd 13 Chwefror 2025.