Bridge of Spies (ffilm)

Oddi ar Wicipedia
Bridge of Spies

Poster sinema'r ffilm
Cyfarwyddwr Steven Spielberg
Cynhyrchydd Steven Spielberg
Marc Platt
Kristie Macosko Krieger
Ysgrifennwr Matt Charman
Joel Coen
Ethan Coen
Serennu Tom Hanks
Mark Rylance
Amy Ryan
Alan Alda
Cerddoriaeth Thomas Newman
Sinematograffeg Janusz Kamiński
Golygydd Michael Kahn
Dylunio
Cwmni cynhyrchu DreamWorks Pictures[1]
Fox 2000 Pictures
Reliance Entertainment
Participant Media
TSG Entertainment
Afterworks Limited
Studio Babeksberg
Amblin Entertainment
Marc Platt Productions
Dyddiad rhyddhau Walt Disney Studios
Motion Pictures (Gogledd America)
20th Century Fox (Rhyngwladol)

4 Hydref, 2015
(Gŵyl Ffilmiau Efrog Newydd)
16 Hydref, 2015
(Yr Unol Daleithiau)
Amser rhedeg 141 munud[2][3]
Gwlad Yr Unol Daleithiau
Iaith Saesneg

Mae Bridge of Spies yn ffilm hanesyddol ddrama-gyffrous 2015 a gyfarwyddwyd gan Steven Spielberg o sgript a ysgrifennwyd gan Matt Charman, Ethan Coen, a Joel Coen. Serenna Tom Hanks, Mark Rylance, Amy Ryan, ac Alan Alda yn y ffilm. Fe'i seiliwyd ar y digwyddiad U-2 a gymerodd lle yn 1960 yn ystod y Rhyfel Oer. Adrodda'r ffilm stori'r cyfreithiwr James B. Donovan, sy'n gyfrifol am negodi rhyddhad Francis Gary Powers - peilot awyren ysbiwr U-2 a saethwyd i lawr uwchben yr Undeb Sofietaidd—fe'i gyfnewidiwyd am Rudolf Abel, ysbiwr KGB Sofietaidd oedd yn cael ei ddal gan yr Unol Daleithiau. Cyfeiria enw'r ffilm at Bont Glienicke, sy'n cysylltu Potsdam gyda Berlin, lle cyfnewidiwyd yr ysbiwyr. 

Saethwyd Bridge of Spies o dan y teitl gweithio St. James Place. Dechreuodd y brif ffotograffiaeth ar 8 Medi, 2014, yn Brooklyn, Dinas Efrog Newydd, a pharhaodd y cynhyrchu yn Stiwdios Babelsberg ym Motsdam. Rhyddhawyd y ffilm gan Touchstone Pictures ar 16 Hydref, 2015, yng Ngogledd America a fe'i dosbarthwyd gan 20th Century Fox mewn gweledydd eraill.[4] Roedd yn llwyddiant yn ystod ei chyfnod yn y sinema, yn ennill $165.5 miliwn yn fyd-eang a derbyniodd ganmoliaeth feirnidadol. Fe'i chanmolwyd ar gyfer ei chyfarwyddo, sgript, actio, sgôr, a chynhyrchu. Derbyniodd y ffilm chwe enwebiad Gwobr yr Academi gan gynnwys Ffilm Orau a Sgript Wreiddiol Orau ac enillodd Rylance y wobr ar gyfer yr Actor Cefnogol Gorau.

Cast[golygu | golygu cod]

  • Tom Hanks fel James B. Donovan
  • Mark Rylance fel Rudolf Abel
  • Scott Shepherd fel Hoffman
  • Amy Ryan fel Mary McKenna Donovan
  • Sebastian Koch fel Wolfgang Vogel
  • Alan Alda fel Thomas Watters
  • Austin Stowell fel Francis Gary Powers
  • Billy Magnussen fel Doug Forrester
  • Eve Hewson fel Carol Donovan
  • Jillian Lebling fel Peggy Donovan
  • Noah Schnapp fel Roger Donovan
  • Jesse Plemons fel Murphy
  • Michael Gaston fel Williams
  • Peter McRobbie fel Allen Dulles
  • Domenick Lombardozzi fel Agent Blasco
  • Will Rogers fel Frederic Pryor
  • Dakin Matthews fel Y Barnwr Mortimer W. Byers
  • Stephen Kunken fel William Tompkins
  • Joshua Harto fel Bates
  • Mark Zak fel Barnwr Sofietaidd
  • Edward James Hyland fel Y Prif Ustus Earl Warren
  • Mikhail Gorevoy fel Ivan Alexandrovich Schischkin

Ffilmio[golygu | golygu cod]

Rhyddhad[golygu | golygu cod]

Dosbarthwyd Bridge of Spies yng Ngogledd America gan Walt Disney Studios Motion Pictures, o dan faner Touchstone Pictures.[5][6] Cynhaliodd Disney premiere y byd y ar 4 Hydref, 2015[7] yn y 53ain Gŵyl Ffilmiau Efrog Newydd.[8][9] Rhyddhawyd y ffilm mewn sinemâu yn yr Unol Daleithiau ar 16 Hydref, 2015.[10] Dosbarthwyd y ffilm gan 20th Century Fox mewn gwledydd eraill.[5]

Rhyddhawyd poster sinema'r ffilm ar 4 Mehefin, 2015,[11] gyda rhaghysbyseg gyntaf y ffilm yn ymddangos ar-lein y diwrnod canlynol. [12]

Cyfryngau cartref[golygu | golygu cod]

Rhyddhawyd y ffilm gan Touchstone Home Entertainment ar Blu-ray, DVD, a lawrlwythiad digidol yng Ngogledd America ar 2 Chwefror, 2016 a gan 20th Century Fox Home Entertainment mewn gweledydd eraill.

Trac sain[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd yn wreiddiol y byddai John Williams yn cyfansoddi sgôr y ffilm. Er hyn, roedd yn rhaid i Williams adael y cynhyrchiad oherwydd problem iechyd[5]. Cysylltodd Spielberg â Thomas Newman gan ofyn iddo gymryd lle Williams, gan olygu mai hon yw ffilm gyntaf Spielberg heb gerddoriaeth Williams ers The Color Purple yn 1985 a sgoriwyd gan Quincy Jones[13]. Rhyddhawyd trac sain y ffilm gan Hollywood Records ar 16 Hydref, 2015.[14]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Bridge of Spies Press Kit" (PDF). wdsmediafile.com. The Walt Disney Studios. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2015-12-14. Cyrchwyd December 14, 2015. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  2. "BRIDGE OF SPIES (12A)". British Board of Film Classification. October 13, 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-12-19. Cyrchwyd October 13, 2015.
  3. Debruge, Peter (October 4, 2015). "Film Review: 'Bridge of Spies'". Variety. Cyrchwyd October 6, 2015.
  4. Lang, Brent (March 18, 2015). "Spielberg-Hanks Cold War Film Titled 'Bridge of Spies,' John Williams Won't Compose Score". Variety. Cyrchwyd March 19, 2015.
  5. 5.0 5.1 5.2 Labrecque, Jeff (March 18, 2015). "Steven Spielberg's Cold War thriller gets a title, but John Williams drops out". Entertainment Weekly. Cyrchwyd March 19, 2015.
  6. Keegan, Rebecca (October 9, 2015). "Spielberg, Hanks and Rylance talk about the Cold War, geopolitics and 'Bridge of Spies'". Los Angeles Times. Cyrchwyd December 10, 2015.
  7. Hammond, Pete. "As New York Film Festival Opens, How Is Oscar Race Taking Shape?". Deadline. Cyrchwyd 2015-09-27.
  8. "Spielberg-Coens Drama 'Bridge of Spies' Gets New York Film Festival Premiere". The New York Times. Cyrchwyd 2015-09-27.
  9. Tapley, Kristopher (October 4, 2015). "'Bridge of Spies' Could Bring Steven Spielberg a Step Closer to an Oscar Record". Variety. Cyrchwyd October 26, 2015.
  10. McNary, Dave (16 Mehefin 2014). "Tom Hanks-Steven Spielberg Cold War Thriller Set for Oct. 16, 2015". Variety. Cyrchwyd 6 Mehefin 2014.
  11. Bullock, Paul (June 6, 2015). "Bridge of Spies poster revealed". From Director Steven Spielberg. Cyrchwyd June 6, 2015.
  12. Gettell, Oliver (June 5, 2015). "'Bridge of Spies' trailer: Spielberg, Hanks tackle Cold War intrigue". Los Angeles Times. Cyrchwyd October 27, 2015.
  13. Grieving, Tim (October 17, 2015). "When John Williams Can't Go, Whom Does Spielberg Call? Thomas Newman". NPR. Cyrchwyd October 26, 2015.
  14. "'Bridge of Spies' Soundtrack Details". Film Music Reporter. September 30, 2015. Cyrchwyd October 6, 2015.