Brian Huggett
Brian Huggett | |
---|---|
Ganwyd | 18 Tachwedd 1936 Porthcawl |
Bu farw | 22 Medi 2024 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | golffiwr |
Gwobr/au | MBE |
Chwaraeon | |
Tîm/au | European Ryder Cup team |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Golffiwr proffesiynol o Gymru oedd Brian George Charles Huggett, MBE (18 Tachwedd 1936 – 22 Medi 2024). [1] Enillodd mewn 16 o ddigwyddiadau yn Ewrop rhwng 1962 a 1978.
Cafodd Huggett ei eni ym Mhorthcawl, yn fab i George Huggett, a oedd yn weithiwr cynorthwyol yng Nghlwb Golff Brenhinol Porthcawl. Symud George i Redhill and Reigate Golf Club yn Surrey ym 1950.[2][3]
Ym 1951, trodd Brian Huggett yn broffesiynol gan ddod yn gynorthwyydd i'w dad yn Redhill a Reigate, ac yn ddiweddarach bu'n weithiwr proffesiynol yng Nghlwb Golff Romford rhwng 1960 a 1966.[4][5]
Enillodd Huggett Pencampwriaeth Agored yr Iseldiroedd, ei ddigwyddiad unigol pwysig cyntaf, ym 1962.[6] Ym 1962, roedd wedi gorffen yn drydydd yn y Bencampwriaeth Agored hefyd.[7] Cymhwysodd ar gyfer tîm Cwpan Ryder 1963 yn drydydd yn y rhestr pwyntiau,[8] lle oedd e'n brif sgoriwr Prydain, gyda dwy fuddugoliaeth a hanner.[9]
Roedd yn briod â menyw o'r enw Winnie ac roedd ganddynt ddwy ferch.[10] Mae ei ferch Sandra Huggett yn actores.[11]
Bu farw Huggett ar 22 Medi 2024, yn 87 oed.[12]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Alliss, Peter (1983). The Who's Who of Golf. Orbis Publishing. t. 250. ISBN 0-85613-520-8.
- ↑ "George Huggett goes to Surrey". The Western Mail. 10 Mehefin 1950. t. 7 – drwy Newspapers.com.
- ↑ "George Huggett". The Daily Telegraph. 26 Ionawr 1983. t. 29 – drwy Newspapers.com.
- ↑ "Brian Huggett". European Tour. Cyrchwyd 14 Hydref 2023.
- ↑ "Club History and Info". Romford Golf Club access-. 14 Hydref 2023.
- ↑ "Briton wins Dutch Open". The Glasgow Herald. 6 August 1962. t. 3.
- ↑ Horne, Cyril (14 July 1962). "Palmer retains Open title". Glasgow Herald. t. 1.
- ↑ "Brothers in". The Glasgow Herald. 23 Medi 1963. t. 10.
- ↑ "2016 Ryder Cup Media Guide" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-06-18. Cyrchwyd 26 Medi 2015.
- ↑ "Helping the wound-up to unwind". Glamorgan Gazette. 7 Mehefin 1978. t. 2 – drwy Newspapers.com.
- ↑ Griffin, Cheryl (13 Gorffennaf 2010). "Sandra Huggett". Holby.tv.
- ↑ "Former Ryder Cup captain Huggett dies aged 87". BBC Sport. 22 Medi 2024.