Brian Davies (ymgyrchydd)

Oddi ar Wicipedia

Ymgyrchydd lles anifeiliaid oedd Brian Davies (4 Chwefror 193527 Rhagfyr 2022). Cafodd ei eni yn Nhonyrefail.[1]

Roedd tad Davies yn gynnwr cefn yn y Llu Awyr Brenhinol (RAF), wedi'i bostio i India, ac roedd fam Brian yn gweithio mewn ffatri arfau.[2] Symudon nhw i Loegr yn ddiweddarach. Cyfarfu â'i wraig Joan yn 1955 ac ymfudodd y ddau i Ganada, lle ymunodd â'r fyddin. Bu iddynt ddau o blant.

Yng Nghanada, roedd Davies yn gwrthwynebu lladd morloi. Dechreuodd yr ymgyrch "Save the Seals".[3] Aeth ymlaen i sefydlu'r Gronfa Ryngwladol er Lles Anifeiliaid (IFAW).[4]

Bu farw yng Nghanada, yn 87 oed.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Barry, D. (2005) Icy Battleground: Canada, the International Fund for Animal Welfare and the Seal Hunt, pp.5-10. Breakwater Books, Canada, ISBN 1550812114 (Saesneg)
  2. Davies, B. (1989). Red Ice: My Fight to Save the Seals, p.39, Methuen London Ltd, (Saesneg)
  3. Davies, B. (1989). Red Ice: My Fight to Save the Seals, pp.14-16, Methuen London Ltd (Saesneg)
  4. The Committee Office, House of Commons (3 Mehefin 1998). "House of Commons - Standards and Privileges - Seventeenth Report" (yn Saesneg). Publications.parliament.uk. Cyrchwyd 28 Rhagfyr 2013.
  5. "Brian Davies obituary" (yn Saesneg). Network For Animals. 28 Rhagfyr 2022. Cyrchwyd 29 Rhagfyr 2022.