Brenin yn y mynydd

Oddi ar Wicipedia
Brenin yn y mynydd
Enghraifft o'r canlynolfolklore motif, narrative motif Edit this on Wikidata
Ffrederic Barbarossa yn gyrru'r bachgen i edrych a yw'r cigfrain yn dal i hedfan o gwmpas y mynydd

Motif mewn chwedloniaeth yw y brenin yn y mynydd neu'r arwr cwsg. Yr hyn sy'n gyffredin iddynt fel rheol yw fod arwr, hanesyddol neu chwedlonol, yn cysgu mewn ogof dan fynydd. Ryw ddiwrnod, pan fydd yr amser penodedig wedi cyrraedd, neu pan fydd ei wlad mewn perygl dybryd, bydd yn deffro i'w hachub. Mewn rhai fersiynau, mae'r arwr yn cysgu yn rhywle arall; at ynys, dan y môr neu mewn byd goruwchnaturiol. Fe'i gelwir hefyd yn Sebastianiaeth, ar ôl Sebastian I, brenin Portiwgal, un o'r arwyr y credir y bydd yn dychwelyd.

Casglwyd nifer o'r chwedlau hyn gan y Brodyr Grimm. Un esiampl yw'r chwedl o'r Almaen am yr Ymerawdwr Glân Rhufeinig Ffrederic Barbarossa. Mae Ffrederic yn cysgu mewn ogof dan fynydd y Kyffhäuser. Pan mae'n deffro, mae'n gyrru bachgen i weld a yw'r cigfrain yn dal i hedfan o gylch y mynydd; pan ddiflanna'r cigfrain, bydd yn bryd i Ffrederic godi o'i gwsg.

Ymhlith esiamplau o'r chwedlau hyn mae: