Brecwast Astronot (albwm)
| Brecwast Astronot | ||
|---|---|---|
| Albwm stiwdio gan Geraint Jarman | ||
| Rhyddhawyd | Mai 2011 | |
| Label | Ankstmusik | |
Albwm gan y canwr Cymraeg Geraint Jarman yw Brecwast Astronot. Rhyddhawyd yr albwm ym Mai 2011 ar y label Ankstmusik.
Mae Geraint Jarman yn un o griw bychan, dethol o gerddorion Cymraeg sydd wedi llwyddo i oroesi a phontio sawl degawd, gan esblygu yn ôl y gofyn, a parhau i swnio’n ffres. Rhyddhaodd ei albwm unigol cyntaf, Gobaith Mawr Y Ganrif, ym 1976. Yn 2011 - 35 mlynedd yn ddiweddarach – rhyddhawyd Brecwast Astronot ac mae wedi llwyddo i ffeindio sŵn newydd, ffres i’w hun unwaith eto.
Dewiswyd Brecwast Astronot yn un o ddeg albwm gorau 2011 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar.[1]
Canmoliaeth
[golygu | golygu cod]Hir yw pob aros, medde nhw, a'r albwm yn profi fod e'n werth yr aros. Yr uchafbwynt i fi yw'r gân 'Brecwast Astronot' ei hun, gyda geirie arallfydol, hudol Jarman yn eistedd yn berffaith gyda'r gerddoriaeth wych.
—Huw Stephens, Y Selar
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "10 Uchaf Albyms 2011 - Y Selar, Ebrill 2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-06-18. Cyrchwyd 2017-02-10.