Breconshire (Cambridge County Geographies)

Oddi ar Wicipedia
Breconshire
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata


Map o Sir Frycheiniog allan o'r gyfrol

Breconshire yw'r gyfrol yn y gyfres Cambridge County Geographies sy'n ymdrin â'r hen Sir Frycheiniog.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Mae Cambridge County Geographies yn gyfres o lyfrau a gyhoeddwyd gan Wasg Brifysgol Caergrawnt yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif. Cynlluniwyd Cambridge County Geographies i ddarparu cyfres o ganllawiau cryno i rai o siroedd Cymru, Yr Alban a Lloegr. Wedi'u hanelu at y darllenydd cyffredinol, fe wnaethant gyfuno dull cynhwysfawr o ymdrin ag amrywiol agweddau ar ddaearyddiaeth gorfforol a dynol gyda phwyslais ar eglurder. Mae'r llyfrau yn frith o ffotograffau, mapiau a graffiau. Ysgrifennwyd y gyfrol am Sir Frycheiniog gan Christopher J Evans ac fe'i cyhoeddwyd gyntaf ym 1912. Ailgyhoeddwyd y gyfrol yn 2013,[2] mae'r ailgyhoeddiad dal mewn print. Mae modd darllen y gyfrol wreiddiol ar wefan Internet Archive.[3]

Cynnwys[golygu | golygu cod]

Mae'r llyfr yn cynnwys 27 pennod sy'n ymdrin â tharddiad ac ystyr yr enw Brycheiniog; nodweddion cyffredinol y sir a'i afonydd, llynnoedd ac arfordiroedd. Mae'r gyfrol yn ymdrin â hanes pensaernïaeth, enwogion a hynafiaethau'r sir yn ogystal â thrafodaeth am hil, iaith a phoblogaeth. Mae penodau am ddaeareg, hanes naturiol, hinsawdd a diwydiant. Mae'r gyfrol yn trafod sbaon a chronfeydd dŵr enwog yr ardal. Mae hefyd rhestr gyda pharagraff am holl drefi a phentrefi Brycheiniog.

Penodau[golygu | golygu cod]

Dyma restr o benodau'r gyfrol

  1. Siluria. Its division into Principalities. Garth Madryn, Brycheiniog, Brecknock, and Breconshire
  2. General Characteristics. Position and Natural Conditions
  3. Size. Shape. Boundaries
  4. Surface and General Features
  5. Rivers (a) Nedd, Taff, Tawe, Rhymney, Sirhowy, Towy
  6. Rivers (b) The Usk and its Basin
  7. Rivers (c) The Wye and its Basin
  8. Lakes and Waterfalls
  9. Geology and Soil
  10. Natural History
  11. Climate and Rainfall
  12. People Race, Language, Population
  13. Agriculture Main Cultivations, Woodland, Stock
  14. Industries and Manufactures
  15. Mines and Minerals
  16. Spas
  17. The Breconshire Reservoirs
  18. History of Breconshire
  19. Antiquities Prehistoric, British, Roman, Saxon
  20. Ancient Stones of Breconshire
  21. Architecture (a) Ecclesiastical. Abbeys and Churches
  22. Architecture (b) Military. Castles
  23. Architecture (c) Domestic
  24. Communications Past and Present. Roads, Railways, and Canals
  25. Administration and Divisions Past and Present
  26. Roll of Honour
  27. The Chief Towns and Villages of Breconshire

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Evans, Christopher J. (1912). Breconshire. Caergrawnt: Gwasg Brifysgol Caergrawnt.
  2. Evans, Christopher J. (2013). Breconshire / monograph. Cambridge: Cambridge University Press. ISBN 1-107-62921-7. OCLC 908272153.
  3. "Internet Archive: Digital Library of Free & Borrowable Books, Movies, Music & Wayback Machine". archive.org. Cyrchwyd 2019-12-08.