Neidio i'r cynnwys

Branwen (drama Ifor ap Glyn a Darach Ó Scolaí)

Oddi ar Wicipedia
Branwen
Enghraifft o:drama lwyfan "teirieithog"
Dyddiad cynharaf2006
AwdurIfor ap Glyn a Darach Ó Scolaí
Cyhoeddwrheb ei chyhoeddi
IaithCymraeg, Saesneg a'r Wyddeleg
Cysylltir gydaLlwyfan Gogledd Cymru
Cyfarwyddwr/wyrIan Rowlands
Dynodwyr

Drama lwyfan "teirieithog" [Cymraeg, Saesneg a'r Wyddeleg] gan Ifor ap Glyn a Darach Ó Scolaí ydi Branwen. Mae'r ddrama wedi'i seilio ar chwedl Branwen o'r Mabinogi. Llwyfannwyd y ddrama gan Llwyfan Gogledd Cymru yn 2006 a 2007, a'i theithio yng Nghymru, Lloegr ac Iwerddon o dan gyfarwyddyd Ian Rowlands.[1]

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
  • Eifion
  • Mari
  • Seán
  • Gwraig Seán

Disgrifiad

[golygu | golygu cod]

Stori gyfoes sydd yn y ddrama am ddau gyfaill o ddyddiau coleg yn Aberystwyth; Mari sy’n gweithio fel awdures yng Nghymru a Seán sy’n awdur yn Iwerddon. Mae’r ddau yn ail-gwrdd drwy'r cynhyrchydd teledu Eifion Bowen i gyd-weithio ar fersiwn animeiddiedig o chwedl Branwen. Wrth ddod wyneb yn wyneb, hawdd cynnau tân ar hen aelwyd, a daw sawl cyfrinach i’r amlwg, fydd yn effeithio perthynas Seán a’i wraig am byth.

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]

Llwyfannwyd y ddrama'n wreiddiol gan Llwyfan Gogledd Cymru a Project Arts Centre (Iwerddon) yn 2006, gydag Ian Rowlands yn cyfarwyddo. Cast:

Canmoliaeth oedd gan adolygydd theatr Y Cymro ar y pryd : "Dyma enghraifft arall o’i ddawn arbennig [Ian Rowlands] i greu sioe theatrig drwy gyfuno set foel a thaflunio delweddau drwy’r cyfrifiadur arno. Dyma dechneg lwyddiannus welon ni yng nghynhyrchiad blaenorol y cwmni o hanes Frongoch, ac mae’r cyfanwaith yn llwyddo unwaith eto. Dyma theatr sy’n gwthio’r ffiniau traddodiadol, gan roi gwedd newydd ffres ar lwyfannau Cymru", nododd Paul Griffiths yn 2006.[2]

Ail deithwyd y cynhyrchiad yn 2007 gyda'r cast canlynol :

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Rhaglen y cynhyrchiad. Llwyfan Gogledd Cymru. 2006.
  2. Griffiths, Paul (2006-12-01). "Paul Griffiths: 'Branwen' a 'Memory'". Paul Griffiths. Cyrchwyd 2025-08-29.