Brandi Carlile

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Brandi Carlile
Brandi-carlile1.jpg
Ganwyd 1 Mehefin 1981 Edit this on Wikidata
Ravensdale Edit this on Wikidata
Label recordio Columbia Records Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaeth canwr-gyfansoddwr, Canwr, artist stryd, Cerddor, Cyfansoddwr Edit this on Wikidata
Arddull roc poblogaidd Edit this on Wikidata
Gwefan http://www.brandicarlile.com/ Edit this on Wikidata

Mae Brandi M. Carlile (ganwyd 1 Mehefin 1981) yn gantores-gyfansoddwraig roc gwerin ac Americana sydd wedi'i henwebu am wobr Grammy.[1] Cafodd ei geni yn Ravensdale, Washington (talaith)Washington yn yr UDA. Ni orffenodd ei haddysg uwchradd, ond yn hytrach gadawodd i ddilyn gyrfa gerddorol. Fe ddysgodd ei hun i ganu'r gitâr a'r piano. Cafodd ei halbwm cyntaf Brandi Carlile dderbyniad gwresog, ond ni chafodd lawer o lwyddiant masnachol. Yn 2007 enillodd Carlile lwyddiant gyda'i sengl "The Story" oddi ar yr albwm â'r un enw. Fe gafodd The Story statws aur yn 2017, gan iddo werthu 500,000 o gopiau hyd yma.[2] Albwm mwyaf llwyddiannus Carlile hyd yma yw The Firewatcher's Daughter - cafodd ei enwebu am wobr Grammy 'Best Americana Album' gan gyrraedd rhif 9 ar siart Billboard 200.[3]

Disgyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Carlile wedi rhyddhau saith albwm.

  • Brandi Carlile (2005)
  • The Story (2007)
  • Give Up The Ghost (2009)
  • Live at Benaroya Hall with the Seattle Symphony (2011)
  • Bear Creek (2012)
  • The Firewatcher's Daughter (2015)
  • By The Way, I Forgive You (2018)

Ym mis Mai 2017, fe ryddhaodd Carlile Cover Stories, Brandi Carlile Celebrates 10 Years of The Story, An Album to Benefit War Child lle benthycodd 14 o artistiaid eu doniau i ailrecordio'r traciau oddi ar yr albwm The Story. Ymhlith yr artistiaid oedd Adele, Pearl Jam a Dolly Parton. Cafwyd rhagair i'r record gan yr Arlywydd Barack Obama.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Junior, Chris M. (2011-09-10). "Medleyville: Q&A: BRANDI CARLILE". Medleyville.us.
  2. Demming, Mark (2015-04-02). "Brandi Carlile – Biography | Billboard". billboard.com.
  3. "Grammy nominations: Brandi Carlile makes cut; Kendrick Lamar tops list". The Seattle Times. December 7, 2015.