Chelsea Manning

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Bradley Manning)
Chelsea Manning
GanwydBradley Edward Manning Edit this on Wikidata
17 Rhagfyr 1987 Edit this on Wikidata
Dinas Oklahoma Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethperson milwrol, gwyddonydd cyfrifiadurol, ymgyrchydd, intelligence analyst Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
Gwobr/auSeán MacBride Peace Prize, Sam Adams Award, Whistleblower Prize, Gwobr EFF, US Peace Prize Edit this on Wikidata
llofnod

Milwr ym Myddin yr Unol Daleithiau yw Chelsea Elizabeth Manning[1] (ganwyd Bradley Edward Manning, 17 Rhagfyr 1987) a gafwyd yn euog gan lys milwrol yng Ngorffennaf 2013, o dorri Deddf Ysbïo 1917 a throseddau eraill, am ddatgelu bron i dri chwarter miliwn o ddogfennau milwrol a diplomyddol o natur ddirgel neu gyfrinachol i WikiLeaks.[2] Cafodd Manning ei dedfrydu yn Awst 2013[3] a'i rhyddhau ar 17 Mai 2017 yn unol â newid dedfryd gan yr Arlywydd Barack Obama.[4]

Menyw drawsryweddol yw Manning, a gyhoeddodd y diwrnod wedi ei dedfryd yr oedd ganddi hunaniaeth rhywedd fenywol ers ei phlentyndod, ac yn dymuno cael yr enw Chelsea[5] ac i gychwyn ar therapi newid hormonau i newid ei rhyw fiolegol o wryw i fenyw.[6][7][8][9][10] O'i phlentyndod hyd y mwyafrif o'i chyfnod yn y fyddin, Bradley oedd ei henw. Cafodd ddiagnosis o dysfforia rhywedd yn 2013.[11]

Cafodd ei phenodi'n ddadansoddwr cudd-wybodaeth i uned o'r fyddin yn Irac, a chanddi yno fynediad i gronfeydd data o natur ddirgel. Yn nechrau 2010, rhyddhaodd wybodaeth ddirgel i WikiLeaks a chyfaddefodd hyn ar-lein i Adrian Lamo, arbenigwr ar ddiogelwch cyfrifiadurol. Rhodd Lamo wybod i adran wrth-ysbïo'r fyddin a chafodd Manning ei harestio ym mis Mai'r flwyddyn honno. Ymhlith y dogfennau oedd fideos o gyrch awyr yn Baghdad ar 12 Gorffennaf 2007 a chyrch awyr Granai yn 2009; 251,287 o geblau diplomyddol yr Unol Daleithiau;[12] a 482,832 o adroddiadau'r fyddin a adwaenir hwyrach yn "Gofnodion Rhyfel Irac"[13] a "Dyddiadur Rhyfel Affganistan".[14] Cyhoeddid y mwyafrif o'r dogfennau gan WikiLeaks a chyfryngau eraill rhwng Ebrill a Tachwedd 2010.[15][16][17][18][19]

Cafodd Manning ei chyhuddo o 22 o droseddau, gan gynnwys cynorthwyo'r gelyn sy'n dwyn y gosb eithaf.[20][21][22][23] Cafodd ei dal ym Mrig Corfflu'r Môr-filwyr, Quantico yn Virginia o Orffennaf 2010 i Ebrill 2011, dan statws Atal Niwed—carchariad unigol mewn ffaith a chyfyngiadau eraill a berodd pryderon o amgylch y byd—cyn iddi gael ei throsglwydo i Fort Leavenworth, Kansas, ac yno y gallai bod yng nghwmni carcharorion eraill.[24][25][26] Plediodd yn euog i 10 o'r cyhuddiadau ym mis Chwefror 2013.[27] Cychwynodd yr achos Unol Daleithiau v. Manning ar y cyhuddiadau eraill ar 3 Mehefin 2013, ac ar 30 Gorffennaf cafwyd yn euog o 17 o'r cyhuddiadau gwreiddiol a chyhuddiadau diwygiedig o pedwar trosedd arall, ond cafwyd yn ddieuog o gynorthwyo'r gelyn.[28][29][30][31] Cafodd ei dedfrydu i garchar am 35 mlynedd ym Marics Disgyblaethol yr Unol Daleithiau yn Fort Leavenworth.[32] Ar 17 Ionawr 2017, fe newidiodd Barack Obama ddedfryd Manning i gyfanswm saith mlynedd o garchariad ers dyddiad ei harestiad gan yr awdurdodau milwrol (20 Mai 2010).[33]

Cafwyd ymateb byd-eang o bob safbwynt i ddatguddiadau Manning, ei harestiad, a'i dedfryd. Ysgrifennodd Denver Nicks, un o fywgraffyddion Manning, yr oedd y wybodaeth a ryddhawyd yn un o achosion y Gwanwyn Arabaidd yn Rhagfyr 2010[34] a disgrifwyd Manning yn arwr tebyg i Dyn y Tanc a hefyd yn fradwr chwerw yn erbyn ei lywodraeth.[35] Roedd rhai pobl amlwg yn yr Unol Daleithiau wedi galw am ei ddienyddio. Mae Julian Assange, prif olygydd WikiLeaks, wedi disgrifio Bradley fel "arwr heb ei ail" ("unparalleled hero").[36] Yn 2011 ac eto yn 2012, cafodd ei enwebu am Wobr Heddwch Nobel, a hynny gan Oklahoma Center for Conscience and Peace Research a thri aelod seneddol o Ynys yr Iâ. Ysgrifennodd Graham Nash a James Raymond gân i'w gefnogi; teitl y gân oedd geiriau cyfreithiwr Manning pan ofynwyd iddo sut oedd ei iechyd: "Almost Gone."[37] Condemniai hyd y dedfryd gan Reporters sans frontières a'i welodd yn enghraifft o safle fregus y rhai sy'n canu cloch.[38]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganed Manning a'i chwaer hŷn yn Crescent, Oklahoma, Unol Daleithiau America, yn blant i Gymraes, Susan Fox, ac Americanwr o Oklahoma, Brian Manning.[39] Roedd ei dad wedi bod yn Llynges yr Unol Daleithiau am bum mlynedd, ac wedi cyfarfod â mam Manning pan oedd wedi ei leoli yn Cawdor Barracks. Magwyd Manning yn Crescent, ble bu ei dad yn gweithio fel rheolwr Technoleg Gwybodaeth ar gyfer asiantaeth rhentu ceir. Roedd yn fychan am ei oedran, a chyrhaeddodd ond 5"2" fel oedolyn, gan bwyso 105 pwys (47.6 kg).[40] Roedd yn dda am chwarae'r sacsoffon, gwyddoniaeth a gemau cyfrifiadurol, a hyd yn oed pan oedd dal yn yr ysgol elfennol, roedd eisiau ymuno â'r fyddin. Dywedodd un o'i athrawon ei fod yn ddeallus a hunandybus, ond nid oedd fyth mewn trafferth. Roedd yn un o'r ychydig yn ei gymuned a wrthododd grefydd yn agored; ysgrifennodd David Leigh a Luke Harding y buasai Manning yn gwrthod gwneud gwaith cartref ar sail y Beibl, ac na fyddai'n adrodd y rhannau hynnu o'r Pledge of Allegiance a fyddai'n cyfeirio at dduw. Dywedont hefyd fod tad Manning yn llym iawn, ac efallai bod hyn wedi cyfrannu at ei fewndroëdigaeth a dod yn encilgar, dwysaodd hyn pan oedd yn 13 wrth iddo ddechrau gwestiynnu ei rywioldeb.[41]

Stryd Fawr, Hwlffordd, lle mynychodd Manning yr ysgol uwchradd.

Roedd mam Manning yn ei chanfod yn anodd ymaddasu yn yr Unol Daleithiau yn ôl un cymydog, ac roedd ei dad i ffwrdd yn aml, felly roedd yn rhaid iddo edrych ar ôl ei hun am y rhan helaeth o'r amser.[42] Dychwelodd i Gymru gyda'i fam, wedi i'w rieni ysgaru pan oedd yn 13 oed. Astudiodd am ei TGAU yn Ysgol Tasker Milward yn Hwlffordd, Sir Benfro.[36] Daeth i'w adnabod yno am fod â agwedd, a treulio ei oriau cinio yng nglwb cyfrifiaduron yr ysgol yn adeiladu gwefan ei hun.[41][43] Dywedodd ei gyd-ddisgybl Tom Dyer, y byddai Manning yn lleisio ei farn os oedd yn anghytuno â unrhyw beth, ac fe arweiniodd hyn at rai ffraeon gyda'i athrawon.[44] Cafodd Manning ei fwlio am fod yn Americanwr, yr unig un yn yr ysgol, a byddai'r disgyblion eraill yn dynwared ei acen a'i ffordd.[41] Cafodd ei dargedu hefyd am fod yn ferchetaidd; er y gwyddai ei ffrindiau ysgol yn Oklahoma ei fod yn hoyw, nid oedd yn agored am hyn yn yr ysgol yng Nghymru.

Gyrfa filwrol[golygu | golygu cod]

Bradley Manning yn 2009

Ymunodd â Byddin yr Unol Daleithiau fel swyddog gwybodaeth. Gwasanaethodd yn Irac. Tra yno, cwynai ei fod yn cael ei fwlio a'i boenydu am ei fod yn hoyw. Cafodd ei arestio ym mis Gorffennaf 2010 am ryddhau gwybodaeth gyfrinachol: er nad oes cadarnhad swyddogol eto, credir mai'r dogfennau "Cablegate" oedd y dogfennau hynny. Bu'n cael ei ddal yn un o wersylloedd y Marines Americanaidd yn Virginia. Wedi clywed iddo gael ei arestio, hedfanodd ei fam i UDA o Gymru ond gwrthododd y Fyddin Americanaidd ganiatâd iddi ymweld ag ef yn y carchar milwrol.[36]

Ar 19 Awst 2012 gwnaeth Julian Assange ddatganiad cyhoeddus o gefnogaeth i Bradley Manning, tra roedd yn gaeth yn llysgenhadaeth Ecwador gan ddweud "Ddydd Mercher, treuliodd Bradley Manning ei 815fed diwrnod dan glo heb achos llys. Yr uchafswm cyfreithiol yw 120 o ddyddiau. Mae yna undod yn y gorthrwm hwn." [45]

Rhyddhau gwybodaeth[golygu | golygu cod]

Ymateb[golygu | golygu cod]

Protest (Ionawr 2012) yn Frankfurt yn erbyn ei garcharu.

Achos llys[golygu | golygu cod]

Cafodd Manning ei rhoi ar brawf mewn llys milwrol yn Fort Meade, Maryland. Tra'n cyfaddef ei bod wedi rhyddhau'r wybodaeth tra'n gwasanaethu yn Irac, mynnodd wneud hynny er mwyn codi ymwybyddiaeth am effaith gweithredu milwrol yr Unol Daleithiau ar ddinasyddion diniwed. Cafodd ei chanfod yn euog ym mis Gorffennaf 2013 o chwe chyhuddiad o dorri deddf ysbïo am ryddhau 700,000 o ddogfennau milwrol cyfrinachol i WikiLeaks. Ym mis Awst, cafodd ei dedfrydu i garchar am 35 mlynedd.

Carchariad[golygu | golygu cod]

Ar ddau achlysur yn 2016, ceisiodd Manning ladd ei hun, ac fe gwynodd ei bod yn cael ei thrin yn wael.

Newid ei rhyw[golygu | golygu cod]

Rhyddid[golygu | golygu cod]

Cyhoeddodd yr Arlywydd Obama, yn ystod ei ddyddiau olaf yn y Tŷ Gwyn, y byddai Manning yn derbyn newid dedfryd ac felly'n cael ei rhyddhau o'r carchar yn gynnar.[46] Cafodd y penderfyniad ei feirniadu gan y darpar arlywydd ar y pryd, Donald Trump.

Cafodd Manning ei rhyddhau ar 17 Mai 2017, ar ôl iddi cwblhau saith mlynedd o'i dedfryd.[47]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Londoño, Ernesto. "Convicted leaker Bradley Manning changes legal name to Chelsea Elizabeth Manning". The Washington Post. Cyrchwyd April 27, 2014.
  2. Manning, Chelsea E. (May 27, 2015). "The years since I was jailed for releasing the 'war diaries' have been a rollercoaster". The Guardian. Cyrchwyd May 28, 2015.
  3. Sledge, Matt (August 21, 2013). "Bradley Manning Sentenced To 35 Years In Prison For WikiLeaks Disclosures". The Huffington Post.
  4. "Chelsea Manning freed from prison decades early". BBC News. Cyrchwyd 17 May 2017.
  5. "21 Transgender People Who Influenced American Culture". TIME.
  6. Manning, Chelsea E. (August 22, 2013). "The Next Stage of My Life". Press release. As I transition into this next phase of my life, I want everyone to know the real me. I am Chelsea Manning. I am a female. Given the way that I feel, and have felt since childhood, I want to begin hormone therapy as soon as possible. ... I also request that, starting today, you refer to me by my new name and use the feminine pronoun (except in official mail to the confinement facility). ... Thank you, Chelsea E. Manning
  7. Stamp, Scott (August 22, 2013). "Bradley Manning: I want to live as a woman". Today. NBC.
  8. Blake, Aaron & Tate, Julie (August 22, 2013). "Bradley Manning comes out as transgender: 'I am a female'". The Washington Post.CS1 maint: uses authors parameter (link)
  9. Coombs, David (August 26, 2013). "Additional Clarification on PVT Manning's Request". The Law Offices of David E. Coombs. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-08-31. Cyrchwyd 2017-05-17. ... PVT Manning, who has experienced gender dysphoria and gone through a process of gender questioning and exploration for years, announced that she would like to begin to be known publicly by the name of Chelsea Elizabeth Manning ...
  10. Farrell, Henry; Finnemore, Martha (November–December 2013). "The End of Hypocrisy: American Foreign Policy in the Age of Leaks". Foreign Affairs. http://www.foreignaffairs.com/articles/140155/henry-farrell-and-martha-finnemore/the-end-of-hypocrisy. Adalwyd October 26, 2013. "Chelsea Manning, an army private then known as Bradley Manning, turned over hundreds of thousands of classified cables to the anti-secrecy group WikiLeaks"
  11. Clark, Meredith (August 22, 2013). "'I am Chelsea Manning'". MSNBC. Cyrchwyd October 28, 2013. Dr. David Moulton, the forensic psychologist assigned to review Manning's case, said that Manning was suffering from gender identity disorder, a diagnosis supported by a military sanity board.
  12. "Secret US Embassy Cables". WikiLeaks. November 28, 2010. Cyrchwyd May 28, 2015.
  13. "Iraq War logs". WikiLeaks. October 22, 2010. Cyrchwyd May 28, 2015.
  14. "Afghan War diary". WikiLeaks. July 25, 2010. Cyrchwyd May 28, 2015.
  15. Leigh and Harding 2011, pp. 194ff, 211
  16. For the Afghan and Iraq War logs, see Nicks 2012, p. 137.
  17. Zetter, Kim & Poulsen, Kevin (June 6, 2010). "U.S. Intelligence Analyst Arrested in Wikileaks Video Probe". WIRED.CS1 maint: uses authors parameter (link)
  18. Hansen, Evan (July 13, 2011). "Manning-Lamo Chat Logs Revealed". WIRED.
  19. Manning, Bradley PFC (January 29, 2013). "PFC Manning's Statement Redacted". Google Docs.
  20. Nicks (September 23, 2010). "Private Manning and the Making of Wikileaks". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-29. Cyrchwyd 2017-05-17.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  21. United States Division – Center Media Release, (July 6, 2010). "Soldier faces criminal charges" (PDF).CS1 maint: extra punctuation (link) CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  22. "Charge sheet" (PDF). The Washington Post.
  23. Miklaszewski, Jim & Kube, Courtney (March 2, 2011). "Manning faces new charges, possible death penalty". MSNBC.CS1 maint: uses authors parameter (link)
  24. Ackerman, Bruce & Benkler, Yochai. "Private Manning's Humiliation". The New York Review of Books. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-05. Cyrchwyd April 5, 2011.CS1 maint: uses authors parameter (link) CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  25. Ackerman, Bruce & Benkler, Yochai. "Private Manning's Humiliation". The New York Review of Books (arg. Correctioon). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-09. Cyrchwyd 2017-05-17.CS1 maint: uses authors parameter (link) CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  26. Associated Press (April 20, 2011). "WikiLeaks Suspect Transferred to Fort Leavenworth". The New York Times.[dolen marw]
  27. "Judge accepts Manning's guilty pleas in WikiLeaks case". CBS News. February 28, 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-29. Cyrchwyd 2017-05-17.
  28. Tate, Julie & Londoño, Ernesto (July 30, 2013). "Bradley Manning found not guilty of aiding the enemy, convicted on other charges". The Washington Post.CS1 maint: uses authors parameter (link)
  29. Londoño, Ernesto & Rolfe, Rebecca & Tate, Julie (July 30, 2013). "Verdict in Bradley Manning case". The Washington Post.CS1 maint: uses authors parameter (link)
  30. Savage, Charlie (July 30, 2013). "Manning Acquitted of Aiding the Enemy". The New York Times.CS1 maint: uses authors parameter (link)
  31. Pilkington, Ed (July 31, 2013). "Bradley Manning verdict: cleared of 'aiding the enemy' but guilty of other charges". The Guardian. the soldier was found guilty in their entirety of 17 out of the 22 counts against him, and of an amended version of four others.
  32. Hanna, John (August 21, 2013). "Manning to Serve Sentence at Famous Leavenworth". ABC News. Associated Press.
  33. Savage, Charlie (January 17, 2017). "Obama Commutes Bulk of Chelsea Manning's Sentence". The New York Times. Cyrchwyd January 17, 2017.
  34. Arab Spring, pp. 212–216
  35. Nicks 2012, p. 3
  36. 36.0 36.1 36.2  Welsh schoolboy at the centre of Wikileaks row (5 Rhagfyr 2010).
  37. Gwobr Heddwch Nobel:
  38. "Lengthy prison term for Bradley Manning". , Reporters Without Borders. August 21, 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-08-21. Cyrchwyd 2017-05-17.
  39.  Steve Fishman (3 Gorffennaf 2011). Bradley Manning’s Army of One.
  40.  Michael Kirkland (13 Mawrth 2011). Under the U.S. Supreme Court: Bradley Manning, WikiLeaks martyr?. UPI.
  41. 41.0 41.1 41.2 David Leigh a Luke Harding (2011). Wikileaks: Inside Julian Assange's War on Secrecy. Guardian Books, tud. 20–24
  42.  Ginger Thompson (8 Awst 2010). Early Struggles of Soldier Charged in Leak Case. The New York Times.
  43.  Robert Booth, Heather Brooke a Steve Morris (30 Tachwedd 2010). WikiLeaks cables: Bradley Manning faces 52 years in jail. The Guardian.
  44.  Wikileaks: Bradley Manning 'set up own Facebook'. Channel 4 News (1 Rhagfyr 2010).
  45. http://www.bbc.co.uk/newyddion/19312713/ Gwefan Newyddion BBC
  46. Obama'n cyhoeddi bod Chelsea Manning i gael ei rhyddhau, BBC (18 Ionawr 2017). Adalwyd ar 17 Mai 2017.
  47. Chelsea Manning wedi ei rhyddhau o'r carchar, BBC (17 Mai 2017). Adalwyd ar 17 Mai 2017.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]