Bomio manwl
| Enghraifft o: | tacteg filwrol |
|---|---|
| Y gwrthwyneb | area bombardment |
| Dynodwyr | |
Term milwrol yw bomio manwl[1] sy'n cyfeirio at gyrch awyr sy'n gollwng bomiau wedi eu hanelu at union fan y targed. Mae'n wahanol felly i fomio ardal, sef gollwng bomiau ar ardal gyffredinol y targed. Nod bomio manwl yw achosi'r difrod mwyaf i'r targed, a lleihau difrod ystlysol megis marwolaethau sifiliaid.
Ymddengys y term Saesneg "precision bombing" am y tro cyntaf ym mhapur newydd The Times ym 1934.[2] Yn y cyfnod hwn, cyfeiriodd at ollwng bomiau o awyrennau milwrol gydag anelydd tuag at darged penodol, er enghraifft llong neu ffatri.[3] Ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd, ceisiodd y Cynghreiriaid ddinistrio targedau'r gelyn yn strategol mewn cyrchoedd yng ngolau dydd gyda bomio manwl. Fodd bynnag, nid oedd technoleg yn ddigonol ar y pryd i daro targedau'n gyson, felly trodd yr Awyrlu Brenhinol a Chorfflu Awyr Byddin yr Unol Daleithiau at fomio ardal ac hyd yn oed bomio dirlawn (neu "fomio carped"), gan ddinistrio dinasoedd cyfan. Dilynwyr strategaeth debyg yn rhyfeloedd Corea a Fietnam. Yn sgil datblygiadau technolegol yn y 1980au, cynhyrchwyd bomiau annel (neu "fomiau clyfar") a all daro targed yn fanwl gywir, ac yn Rhyfel y Gwlff dechreuodd yr oes newydd o fomio manwl.[4] Serch hynny, dim ond mor gywir â'r wybodaeth a roddir iddi y gall y dechnoleg fod, ac mae lluoedd yr Unol Daleithiau yn enwedig wedi cael eu beirniadu am ymosod ar dargedau anghywir os nad targedu sifiliaid ar bwrpas.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur yr Academi, precision > precision bombing.
- ↑ Oxford English Dictionary
- ↑ (Saesneg) "precision bombing", Merriam-Webster. Adalwyd ar 25 Ebrill 2026.
- ↑ Daniel L. Haulman, "Precision Aerial Bombardment of Strategic Targets: Its Rise, Fall, and Resurrection", Air Power History 55:4 (2008), tt. 24–33.