Bohemond I, Tywysog Antioch
| Bohemond I, Tywysog Antioch | |
|---|---|
| Ganwyd | 1054 San Marco Argentano |
| Bu farw | 3 Mawrth 1111 Canosa di Puglia |
| Dinasyddiaeth | Ffrainc |
| Galwedigaeth | gwarogwr |
| Swydd | prince of Antioch, prince of Taranto |
| Tad | Robert Guiscard |
| Mam | Alberada of Buonalbergo |
| Priod | Constance de France |
| Plant | Bohemond II of Antioch |
| Llinach | Hauteville family |

Roedd Bohemond I, Tywysog Antioch neu Bohemond (c.1056 - 3 Mawrth, 1111) yn Groesgadwr a thywysog, fab hynaf Robert Guiscard, Dug Apulia a Chalabria. Cyn iddo ddod yn Dywysog Antioch roedd yn Dywysog Taranto.
Ei hanes
[golygu | golygu cod]Yn ystod y Groesgad Gyntaf, rhwng 1080 a 1085, ymladdai Bohemond â'i dad Robert Guiscard yn erbyn Alexius I Commenius, ymerodr Bysantaidd Caergystennin. Yn ddiweddarach cipiodd ddinas gyfoethog Antioch yn 1098.
Am gyfnod bu'r Croesgadwr enwog Tancred yn llywodraethwr Antioch (1101 - 1103; 1104 - 1112) ar ran Bohemond. Yn ystod cyfnod cyntaf Tancred yn Antioch roedd Bohemond yn garcharwr gan y Twrciaid.
Ar ôl cyfnod arall o ymladd yn erbyn Alexius cytunodd i ddal Antioch ar ei ran fel deiliad iddo, ond mewn effaith fe'i gadawyd yn rhydd i ddilyn ei drwydded ei hun yn y Lefant. Bu farw yn 1111.