Bogomiliaeth

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Sect Gristnogol ddeuolaidd oedd Bogomiliaeth a ffynnai yn y Balcanau o'r 10g i'r 15g. Sefydlwyd tua 950 gan yr offeiriad Bogomil yn Ymerodraeth Bwlgaria trwy gyfuno athrawiaethau deuolaidd y newydd-Manicheaid—yn enwedig y Pawliciaid o Armenia ac Asia Minor—â mudiad lleol o ddiwygwyr efengylaidd yn Eglwys Uniongred Bwlgaria.

Cosmoleg ddeuolaidd, newydd-Gnostigaidd oedd wrth wraidd yr athrawiaeth Fogomilaidd: credent i'r diafol greu'r byd materol, ac felly bod arferion megis priodas, bwyta cig, ac yfed gwin, yn annuwiol. Gwrthodasant nifer o athrawiaethau a defodau'r Eglwys Uniongred, gan gynnwys ymgnawdoliad yr Iesu, y bedydd, a'r Ewcharist.

Lledaenodd Bogomiliaeth ar draws yr Ymerodraeth Fysantaidd yn y 11g a'r 12g. Yng Nghaergystennin, tua 1100, rhoddwyd Bogomiliaid blaenllaw ar brawf a llosgwyd eu harweinydd, Basil.[1] Yn y 13g a'r 14g, anfonodd Rhufain sawl cenhadaeth o Ffransisiaid i fwrw heresïau, gan gynnwys Bogomiliaeth, allan o Fosnia. Lledaenodd Bogomiliaeth hefyd i Orllewin Ewrop ar ffurf Cathariaeth. Daliodd y Bogomiliaid eu tir ym Mwlgaria hyd at ddiwedd y 14g, er i'r Eglwys Uniongred alw sawl cyngor eglwysig i gondemnio eu gau-athrawiaethau. Diflannodd y Bogomiliaid yn sgil gorchfygiad y Balcanau gan yr Ymerodraeth Otomanaidd yn y 15g. Gwelir olion y traddodiad deuolaidd yn llên gwerin y Slafiaid Deheuol a châi Bogomiliaeth ddylanwad ar ffurf unigryw y Bosniaciaid o Islam.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Bogomil. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Mehefin 2022.