Bodoni

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
ITCBodoni.png

Cyfres o deipiau yw Bodoni a ddyluniwyd yn wreiddiol gan Giambattista Bodoni ym 1798. Mae ganddo linellau trwchus ond seriffau meinion sy'n ei wneud yn anodd ei ddarllen pan yn fach, felly fe'i ddefnyddir yn aml mewn maint mawr ac yn agored ei ofod.[1] Dyluniwyd fersiwn ar gyfer posteri gan Chauncey H. Griffith, a ddefnyddir er enghraifft ar boster y sioe gerdd Mamma Mia!.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Bodoni. Illuminating Letters. Adalwyd ar 13 Mai 2012.
  2. (Saesneg) POSTERS, SIGNPOSTING & CALENDARS. Linotype. Adalwyd ar 13 Mai 2012.