Bob Dole

Oddi ar Wicipedia
Bob Dole
Y Seneddwr Bob Dole yn y 1980au.
GanwydRobert Joseph Dole Edit this on Wikidata
22 Gorffennaf 1923 Edit this on Wikidata
Russell Edit this on Wikidata
Bu farw5 Rhagfyr 2021 Edit this on Wikidata
o canser yr ysgyfaint Edit this on Wikidata
Washington Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Kansas
  • Prifysgol Arizona
  • Prifysgol Washburn Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, cyfreithiwr, cyfreithegwr Edit this on Wikidata
SwyddCynrychiolydd yr Unol Daleithiau, aelod o Dŷ Cynrychiolwyr Kansas, county attorney, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Weriniaethol Edit this on Wikidata
PriodElizabeth Dole, Phyllis Holden Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal y Seren Efydd, Calon Borffor, Medal Dinasyddion yr Arlywydd, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Gwobr Bwyd y Byd, Gwobr Theodore Roosevelt, Gwobr Horatio Alger, Dr. Nathan Davis Award for United States Senators, Cadlywydd gyda Seren Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Order of the National Flag, Order of the Badge of Honour Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.bobdole.org/ Edit this on Wikidata
Tîm/auKansas Jayhawks men's basketball, Kansas Jayhawks football Edit this on Wikidata
llofnod

Gwleidydd a swyddog milwrol Americanaidd oedd Robert Joseph "Bob" Dole (22 Gorffennaf 19235 Rhagfyr 2021) a fu'n Seneddwr dros dalaith Kansas o 1969 i 1996 ac yn ymgeisydd y Blaid Weriniaethol yn etholiad arlywyddol 1996.

Ganed ef i deulu dosbarth gweithiol yn Russell, Kansas. Astudiodd ym Mhrifysgol Kansas cyn iddo ymuno â Byddin yr Unol Daleithiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cafodd ei anafu'n difrifol yn ystod ymgyrch y Cynghreiriaid yn yr Eidal, gan golli'r gallu yn ei fraich dde. Wedi'r rhyfel, dychwelodd at ei addysg, a graddiodd gyda gradd yn y gyfraith o Brifysgol Ddinesig Washburn yn Topeka, Kansas.[1]

Gwasanaethodd Dole yn aelod o Dŷ'r Cynrychiolwyr yn Kansas o 1951 i 1953, ac yn dwrnai etholedig dros Russell County, Kansas, o 1953 i 1961. Aeth i Washington, D.C. pryd gafodd ei ethol yn aelod o Dŷ'r Cynrychiolwyr, a bu'n cynrychioli 6ed dosbarth cyngresol Kansas o 1961 i 1963 a dosbarth cyngresol 1af y dalaith o 1963 i 1969. Fe'i etholwyd i'r Senedd ym 1968.

Gwasanaethodd Dole yn gadeirydd y Pwyllgor Cenedlaethol y Blaid Weriniaethol o 1971 i 1973, yn ystod arlywyddiaeth Richard Nixon. Daeth yn arweinydd y Gweriniaethwyr yn y Senedd ym 1984, a gwasanaethodd yn arweinydd y blaid fwyaf ddwywaith (1984–86 a 1994–96). Efe oedd ymgeisydd is-arlywyddol y Blaid Weriniaethol, yn cyd-ymgyrchu â'r Arlywydd Gerald Ford, yn etholiad arlywyddol 1976. Ymgeisiodd Dole am enwebiad arlywyddol y Gweriniaethwyr ym 1980 ac ym 1988, ond heb ennill. Fe'i enwebwyd o'r diwedd ym 1996, ac ymddeolai o'r Senedd er mwyn canolbwyntio ar yr ymgyrch arlywyddol. Dewisodd Jack Kemp fel ei gydymgeisydd. Bu'r Arlywydd Bill Clinton yn drech na Dole yn yr etholiad hwnnw.

Cyhoeddodd ei hunangofiant, One Soldier's Story, yn 2005. Bu farw Bob Dole yn 98 oed o ganser.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Bob Dole. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 5 Rhagfyr 2021.
  2. (Saesneg) Katharine Q. Seelye, "Bob Dole, Old Soldier and Stalwart of the Senate, Dies at 98", The New York Times (5 Rhagfyr 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 5 Rhagfyr 2021.