Cenddeil-lys

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Blasia)
Cenddeil-lys
Blasia pusilla

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Marchantiopsida
Urdd: Blasiales
Teulu: Blasiaceae
Genws: Blasia
Linnaeus 1753[1]
Rhywogaeth: B. pusilla
Enw deuenwol
Blasia pusilla
Linnaeus 1753[1][2]
Cyfystyron
  • Biagia pusilla (Linnaeus 1753) Trevisan 1877
  • Blasia funckii Corda 1832
  • Blasia germanica Corda 1832
  • Blasia hookeri Corda 1832
  • Blasia immersa Dumortier 1831
  • Blasia semilibera Dumortier 1831
  • Jungermannia biloba Swartz 1803
  • Jungermannia blasia Hooker 1816

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Cenddeil-lys (enw gwyddonol: Blasia pusilla; enw Saesneg: common kettlewort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Blasiales, o fewn y dosbarth Marchantiopsida. Dyma'r unig rhywogaeth yn y genws Blasia.

Llun manwl o'r gemmae

Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru a phob gwlad arall ar ynys Prydain.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Gwahaniaethir rhyngddi a'r Cavicularia oherwydd fod ganddi goler o amgylch gwaelod y capsiwl sporoffit. Yn aml, mae'r paraseit a ffwng Blasiphalia i'w gweld yn rhisoidau ac egin y Blasia.

O ran maint, mae'n ganolig, ac mae'n ffurfio rhosynnau neu fatiau, gyda changhennau bychain hyd at 5 mm o led. Mae'r thalws ychydig yn dryloyw, heb fandyllau aer ar yr wyneb. Mae gan ymylon llabedi'r thalws ddannedd bach, crwn.

Cynefin[golygu | golygu cod]

Mae'r Cenddeil-lys yn gymharol gyffredin ac mae'n tyfu ar bridd llaith, graeanllyd ar hyd ffosydd, glannau afonydd, ochrau ffyrdd a thraciau coedwigaeth, hen chwareli ac weithiau, fel arfer ar haenau nad ydynt yn galchaidd, lle mae lleithder eitha cyson.

Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[3] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Safonwyd yr enw Cenddeil-lys gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Linnaeus, C. (1753). Species Plantarum. Tomus II (arg. 1st). t. 1138.
  2. Micheli, P. A. (1729). Nova Plantarum Genera juxta Tournefortii methodum disposita. Florence. t. 14, plate vii.
  3. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.