Blaenoriad y cyhydnosau
![]() | |
Enghraifft o: | symudiad y Ddaear, presesiad ![]() |
---|---|
Hyd | 26,000 blwyddyn ![]() |
![]() |
Siglo araf y Ddaear wrth iddi droelli ar ei hechel yw blaenoriad y cyhydnosau.
Tra roedd y seryddwr Groegaidd Hipparchus yn llunio ei gatalog sêr (a gwblhawyd yn 129 CC) sylwodd fod safleoedd y sêr wedi'u symud mewn ffordd gyson oddi wrth fesuriadau a wnaed gan seryddwyr yng nghanrifoedd blaenorol. Daeth Hipparchus i'r casgliad bod yr cyhydnosau yn symud trwy'r Sidydd, a hynny ar gyfradd o 1° bob yn 72 o flynyddoedd. Ar ben hynny, nid y sêr oedd yn symud ond yn hytrach y Ddaear, sy'n siglo wrth iddi gylchdroi gan gyfnod o tua 25,772 o flynyddoedd. Gelwir y symudiad hwn yn "flaenoriad y cyhydnosau". Achosir y blaenoriad hwn gan ddylanwad disgyrchiant yr Haul a’r Lleuad yn gweithredu ar ymchwydd cyhydeddol y Ddaear. I raddau llawer llai, mae'r planedau'n dylanwadu ar symudiad y Ddaear hefyd.[1]
Wedi'i arosod ar y symudiad araf hirdymor hwn mae osgiliad llai, cyflymach, sef troelliad, sydd â chyfnod o 18.6 mlynedd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) precession of the equinoxes. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 5 Ebrill 2025.