Blaenau Plastics

Oddi ar Wicipedia
Blaenau Plastics
Math
busnes
Sefydlwyd1979
PencadlysBlaenau Ffestiniog

Ffatri sy'n cynhyrchu plastig uPVC yw Blaenau Plastics. Defnyddir y platigion a gynhyrchir yno ar gyfer ffenestri gwydr dwbl yn bennaf. Mae cwmni Blaenau Plastics Ltd yn rhan o'r grŵp Almaenig Rehau sydd hefyd yn berchen ar ffatri yn Amlwch, Ynys Môn. Mae'r ffatri wedi'i lleoli ar ochr yr A496 ar gyrion tref Blaenau Ffestiniog wrth ymyl pentref Tanygrisiau.

Ers ei hagor yn 1979 mae'r ffatri wedi cael ei hehangu sawl gwaith. Mae tua 300 o bobl yn gweithio ar y safle ar hyn o bryd, sy'n golygu mai dyma gyflogwr mwyaf y dref a'r ardal ehangach. Er fod nifer fach o ddiswyddiadau wedi'u gwneud ym mis Hydref 2008 oherwydd y dirwasgiad yn y farchnad adeiladu, mae'r perchnogion yn hyderus ynglŷn â dyfodol tymor-hir y safle.[1]

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg)  28 Jobs Lost at Blaenau Ffestiniog Plastics Factory. Daily Post (3 Hydref 2008).