Bjørnstjerne Bjørnson

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Bjornstjerne Bjornson)
Bjørnstjerne Bjørnson
GanwydBjørnstjerne Martinius Bjørnson Edit this on Wikidata
8 Rhagfyr 1832 Edit this on Wikidata
Kvikne Edit this on Wikidata
Bu farw26 Ebrill 1910 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethNorwy Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Oslo Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, dramodydd, ysgrifennwr, newyddiadurwr, rhyddieithwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
TadPeder Bjørnson Edit this on Wikidata
MamInger Elise Nordraach Edit this on Wikidata
PriodKaroline Bjørnson Edit this on Wikidata
PlantBergliot Ibsen, Bjørn Bjørnson, Erling Bjørnson, Dagny Bjørnson Sautreau, Einar Bjørnson, Anders Underdal Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Lenyddol Nobel Edit this on Wikidata
llofnod

Llenor, golygydd, areithydd, a chyfarwyddwr theatr Norwyaidd oedd Bjørnstjerne Martinius Bjørnson (8 Rhagfyr 183226 Ebrill 1910) sy'n nodedig fel un o brif ffigurau llên Norwy yn y 19g, ynghyd â Henrik Ibsen, Alexander Kielland, a Jonas Lie. Ysgrifennodd farddoniaeth, dramâu, nofelau, a newyddiaduraeth. Enillodd Wobr Lenyddol Nobel yn 1903 am "ei farddoniaeth aruchel, godidog ac amlochrog, a neilltuir bob amser gan newydd-deb ei hysbrydoliaeth a choethder eithriadol ei hysbryd".[1] Cenir ei gerdd “Ja, vi elsker dette landet” yn eiriau anthem genedlaethol Norwy.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganed Bjørnstjerne Martinius Bjørnson ar 8 Rhagfyr 1832 yn Kvikne. pentref yn swydd Hedmark, Teyrnasoedd Unedig Norwy a Sweden. Roedd yn fab i weinidog, a chafodd ei fagu yng nghymuned ffermio Romsdalen.[2]

Gyrfa lenyddol[golygu | golygu cod]

Dylanwadwyd arno gan draddodiadau a diwylliant gwerin Norwy, a defnyddiodd yr hen sagâu yn sail i'w ddramâu a bywyd gwledig Romsdalen yn gefndir i'w nofelau.

Diwedd ei oes[golygu | golygu cod]

Bu farw ym Mharis, Ffrainc, ar 26 Ebrill 1910 yn 77 oed.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) "The Nobel Prize in Literature 1903", Sefydliad Nobel. Adalwyd ar 8 Rhagfyr 2019.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Bjørnstjerne Martinius Bjørnson. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Rhagfyr 2019.