Bill Oddie
| Bill Oddie | |
|---|---|
| Ganwyd | 7 Gorffennaf 1941 Rochdale |
| Bu farw | 25 Gorffennaf 2026 |
| Man preswyl | Hampstead |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | digrifwr, actor, adaregydd, hunangofiannydd, cyfansoddwr, darlunydd, sgriptiwr, cyflwynydd teledu, actor teledu, ysgrifennwr |
| Plant | Kate Hardie |
| Gwobr/au | OBE |
Actor, digrifwr, cerddor ac adarwr oedd William Edgar "Bill" Oddie, OBE (7 Gorffennaf 1941 – 25 Gorffennaf 2026). Roedd yn aelod o'r triawd comedi The Goodies, gyda Graeme Garden (g. 1943) a Tim Brooke-Taylor (1940-2020).
Cafodd ei eni yn Rochdale,[1] ond symudodd y teulu i Birmingham pan oedd e'n ifanc. Cafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Lapal, Ysgol Ramadeg Halesowen, a King Edward's School, Birmingham. Astudiodd llenyddiaeth Saesneg yng Ngholeg Penfro, Caergrawnt. Tra oedd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caergrawnt, ymddangosodd Oddie mewn nifer o gynyrchiadau gan y Clwb Footlights. Dyma le gychwynnodd ei yrfa berfformio.[2]
Rhyddhaodd The Goodies recordiau hefyd, yn gynnwys "The Funky Gibbon" a "Black Pudding Bertha", gyda Oddie fel y prif leisydd.[3]
Cafodd ddiagnosis o Iselder ysbryd clinigol yn 2002. Siaradodd yn agored am ei salwch a dywedodd mai dyna'r rheswm pam yr oedd wedi rhoi'r gorau i gyflwyno'r rhaglen BBC Springwatch.[4] Bu farw yn 85 oed.[5][6]
Teledu
[golygu | golygu cod]- That Was the Week That Was (1962-3)
- On the Braden Beat (1964)
- The Plank (1967)
- The Goodies (1970-1982)
- Time Team (1997-98)
- Birding with Bill Oddie (3 gyfres, 1997, 1998 a 2000)
- Bill Oddie Goes Wild (3 gyfres, 2001, 2002 a 2003)
- History Hunt (2003)
- Wild in Your Garden (2003)
- Britain Goes Wild (2004)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Wilmut, Roger (1980). From Fringe to Flying Circus: Celebrating a Unique Generation of Comedy 1960–1980 (yn Saesneg). London: Eyre Metheun. t. 35. ISBN 0-413-46950-6.
- ↑ "Bill Oddie". David Foster Management. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Medi 2010. Cyrchwyd 9 Hydref 2010.
- ↑ Roberts, David (2005). British Hit Singles & Albums. Guinness World Records. t. 557. ISBN 1-904994-00-8.
- ↑ Jackson, James. "Bill Oddie reveals his depression after Springwatch departure". The Times (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Awst 2025. Cyrchwyd 16 Rhagfyr 2022.
- ↑ Youngs, Ian (27 Gorffennaf 2026). "TV presenter and comedian Bill Oddie dies at 85". BBC News. Cyrchwyd 27 Gorffennaf 2026.
- ↑ "Bill Oddie, anarchic comedian and Britain's best-known bird-watcher". The Daily Telegraph. 27 Gorffennaf 2026. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Gorffennaf 2026. Cyrchwyd 27 Gorffennaf 2026.