Neidio i'r cynnwys

Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025

Oddi ar Wicipedia
Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025
Enghraifft o:Deddf Senedd Cymru Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Derbyniodd Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 ei Chydsyniad Brenhinol ar 7 Gorffennaf 2025.[1] Roedd 50 aelod o blaid, neb wedi ymatal a neb yn erbyn pasio testun terfynol y bil.[2] Dyma ddeddfwriaeth nodedig i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y cyfle i ddod yn "siaradwyr Cymraeg hyderus" ac yn "defnyddio'r Gymraeg yn annibynnol pan fyddant yn gadael yr ysgol".[3]

Nod y Ddeddf yw symud tuag at darged 2050 o filiwn o siaradwyr Cymraeg[4] drwy gryfhau rôl y Gymraeg mewn addysg, gyda'r amcan cyffredinol o sicrhau bod holl ddisgyblion ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn defnyddio'r Gymraeg yn annibynnol pan fyddant yn gadael yr ysgol.

Crynodeb

[golygu | golygu cod]

Mae'r Ddeddf yn:

  • darparu sail statudol ar gyfer targed 2050 o filiwn o siaradwyr Cymraeg;
  • sicrhau bod targedau yn cael eu gosod mewn perthynas â'r Gymraeg mewn addysg a defnydd o'r Gymraeg, gan gynnwys yn y gweithle ac yn gymdeithasol;

Tri Chategori Cyfrwng Iaith mewn Ysgolion

[golygu | golygu cod]

Mae'r Ddeddf yn nodi tri chategori iaith ar gyfer ysgolion, gan gynnwys isafswm o addysg Gymraeg sydd i'w ddarparu gan ysgolion (sy'n cynnwys addysgu'r Gymraeg fel pwnc yn ogystal ag addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg):

  • Categori "Prif Iaith – Cymraeg" (80%)
  • Categori "Dwy Iaith" (50%)
  • Categori "Prif Iaith – Saesneg, rhannol Gymraeg" (10%)

Nodau Dysgu Cymraeg

[golygu | golygu cod]

Mae'n gosod nodau dysgu Cymraeg ar gyfer pob categori iaith:

  • sicrhau bod awdurdodau lleol yn cymryd camau i ddarparu addysg drochi ddwys yn Gymraeg i blant o 7 oed sy'n dymuno mynychu ysgol categori "Prif Iaith – Cymraeg" neu "Dwy Iaith";
  • creu system o gynllunio addysg Gymraeg ar lefel genedlaethol, lleol ac ysgol;
  • sefydlu Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol i, ymhlith pethau eraill:
    • darparu cymorth i ddysgu Cymraeg fel bod mwy o bobl (o bob oedran) yn dysgu'r iaith ac yn ei defnyddio yn eu bywydau bob dydd
    • trefnu i'r gweithlu addysg ddysgu Cymraeg a gwella eu sgiliau Cymraeg

Cyd-destun a Her

[golygu | golygu cod]

Roedd tua 23% o ddysgwyr yn cael addysg cyfrwng Cymraeg yn 2025.

Uchelgais strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru yw cynyddu cyfran y grwpiau blwyddyn sy'n cael addysg cyfrwng Cymraeg i 30% erbyn 2030/31 a 40% erbyn 2050.

Wrth drafod trydydd eisteddiad y Bil ym mis Mai 2025, ceisiodd AS Plaid Cymru, Cefin Campbell, gynyddu'r targed a'i osod yn y bil trwy gyflwyno gwelliannau, gan gynnwys ceisio ychwanegu:

"Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod o leiaf 50% o gyfanswm nifer y disgyblion o oedran ysgol gorfodol yng Nghymru yn mynychu ysgolion categori "Prif Iaith – Cymraeg" erbyn 31 Rhagfyr 2050."

"Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod cynnydd bob degawd, o 10% o leiaf o gyfanswm nifer y disgyblion o oedran ysgol gorfodol yng Nghymru, yn nifer y disgyblion sy'n mynychu ysgolion categori "Prif Iaith - Cymraeg".

Galwodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar ASau i gefnogi'r gwelliant i gael targed o 50% yn y Bil, ond pleidleisiodd 39 aelod yn erbyn a 12 o blaid.[5]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Cydsyniad Brenhinol i Ddeddf Senedd Cymru Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025" (PDF). Llywodraeth Cymru. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2025.
  2. 1 2 "Senedd yn cymeradwyo Bil y Gymraeg ac Addysg 'hanesyddol'". BBC Cymru Fyw. 13 Mai 2025.
  3. "Bil y Gymraeg ac Addysg yn derbyn Cydsyniad Brenhinol". Llywodraeth Cymru. 7 Gorffennaf 2025.
  4. "Cymraeg 2050: strategaeth y Gymraeg". Llywodraeth Cymru. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2025.
  5. "Bil y Gymraeg ac Addysg yn pasio cyfnod allweddol". BBC Cymru Fyw. 6 Mai 2025.