Neidio i'r cynnwys

Biddy Baxter

Oddi ar Wicipedia
Biddy Baxter
GanwydJoan Maureen Baxter Edit this on Wikidata
25 Mai 1933 Edit this on Wikidata
Caerlŷr Edit this on Wikidata
Bu farw10 Awst 2025 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
  • Wyggeston Grammar School for Girls
  • St Mary's College Edit this on Wikidata
Galwedigaethcynhyrchydd teledu Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PriodJohn Hosier Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata

Roedd Joan Maureen "Biddy" Baxter, MBE (25 Mai 193310 Awst 2025) yn gynhyrchydd teledu o Loegr. Roedd hi'n fwyaf adnabyddus fel un o'r grymoedd creadigol pwysicaf y tu ôl i'r rhaglen gylchgrawn plant poblogaidd Blue Peter o 1965 i 1988, gan ddyfeisio llawer o'r fformat presennol.

Bywyd cynnar ac addysg

[golygu | golygu cod]

Cafodd Baxter ei geni yn Ysbyty Regent, Caerlŷr, i Bryan Reginald Baxter a'i wraig Dorothy Vera, née Briers.[1] Roedd Bryan yn athro, a ddaeth yn gyfarwyddwr cwmni dillad chwaraeon; roedd Dorothy yn bianydd. Cafodd ei magu yn 'Brydor', Syston Road, Thurmaston yn yr 1930au, yna yn 92 Highway Road yn yr 1940au.

Astudiodd Baxter yn St Mary's, coleg i fenywod ym Mhrifysgol Durham, rhwng 1952 a 1955.[2]

Ar ôl graddio yn y gwyddorau cymdeithasol, ymunodd Baxter â'r BBC fel rheolwr stiwdio ym 1955 a Listen with Mother ym 1961. Ar ôl symud i swydd dros dro ym 1962, cafodd swydd barhaol fel cynhyrchydd Blue Peter o fis Tachwedd 1962.

Daeth Baxter a'i dirprwy Edward Barnes sy'n ddatblygodd y fformat yn rhaglen lwyddiannus, gyda chyllideb o ddim ond £180 y rhifyn i ddechrau.

Dyfeisiodd a chyflwynodd Baxter fathodyn Blue Peter ym 1963 [2] i annog plant i anfon syniadau rhaglen, lluniau, llythyrau a straeon a hefyd cyflwynodd yr apeliadau blynyddol sydd bellach yn enwog. Ymddeolodd fel golygydd o'r rhaglen ym 1988.[3][4]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Aeth Baxter i fyw yn Hong Kong gyda'r phartner, John Hosier. Ar ôl dychwelyd o ym 1993, parhaodd Baxter i weithio i'r BBC, fel ymgynghorydd i'r cyfarwyddwyr cyffredinol Michael Checkland a John Birt.[2]

Bu farw Baxter ar 10 Awst 2025, yn 92 oed.[5] Roedd hi wedi dioddef o ganser y fron a chlefyd Alzheimer.[6]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Births". Leicester Evening Mail (yn Saesneg). 26 Mai 1933. t. 9. OCLC 750663867. Cyrchwyd 20 Ionawr 2022 drwy British Newspaper Archive.
  2. 1 2 3 Martinson, Jane (24 Tachwedd 2014). "Blue Peter's Biddy Baxter: 'I never wanted to do anything else'". Cyrchwyd 12 Rhagfyr 2017.
  3. "Biddy Baxter: Special Award Recipient in 2013". www.bafta.org (yn Saesneg). BAFTA. 12 Tachwedd 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Mai 2019. Cyrchwyd 20 Ionawr 2022.
  4. Baxter, Biddy; Barnes, Edward (18 Mawrth 2011). "Rosemary Gill obituary". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 11 Rhagfyr 2017.
  5. "Legendary Blue Peter editor Biddy Baxter dies at 92" (yn Saesneg). BBC News. 11 Awst 2025. Cyrchwyd 11 Awst 2025.
  6. Hayward, Anthony (11 Awst 2025). "Biddy Baxter obituary". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 11 Awst 2025.