Bible Black

Oddi ar Wicipedia
Bible Black
Enghraifft o'r canlynolgêm fideo, anime Edit this on Wikidata
CyhoeddwrMedia Blasters, Active Edit this on Wikidata
IaithJapaneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi14 Gorffennaf 2000, 21 Tachwedd 2006 Edit this on Wikidata
Genrehentai, ffantasi anime a manga, anime a manga arswyd, nofel rhyngweithiol, eroge Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolJapaneg Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.active-soft.jp/catalog/bb.html Edit this on Wikidata


Clawr y llyfr
Sgrinlun o'r gem fideo

Gem fideo eroge ydy Bible Black (バイブルブラック Baiburu Burakku) wedi cael ei ddatblygu gan Cwmni ActiveSoft a gweld golau dydd ar 14 Gorffennaf, 2000.[1] Ers y cynta ddod allan mae na lawer iawn o mathau eraill wedi cael ei gyhoeddi e.g. llyfrau, DVDs etc. Cafodd y lluniau eu gwneud gan yr artist Sei Shoujo a fo hefyd sgwennodd y sgript.

Mae'n perthyn i'r genre Hentai.

Mae Milky Studio yn y blynyddoedd diwetha wedi creu addasiadau ar gyfer oedolion. Roedd y cynta, Bible Black, yn cynnwys chwech rhan yn darlunio tameidiau o'r gem fideo. Y flwyddyn wedyn daeth OVA dau ran allan dan y teitl Bible Black: Origins a oedd yn rhagflaenu'r fersiwn cyntaf. Yn Ebrill 2004, cynhyrchodd Milky Studio cyfres sequel dan y teitl Bible Black: New Testament, efo'i stori'n dilyn y cymeriadau gwreiddiol deg mlynedd wedi'r cyntaf.

Cafodd y gem ei gyhoeddi eto yn 2006 dan y teitl Bible Black Slim ac yna daeth Bible Black Infection allan yn 2008. Doedd Sei Shoujo ddim yn rhan o'r gwaith yma gan ei fod wedi gadael y cwmni.

Lleoliad[golygu | golygu cod]

Mewn academi mae'r stori wedi lleoli, ble mae cwfen neu "Clwb Gwrachod" yn gwneud black magic yn y selar o dan yr academi.

Cymeriadau[golygu | golygu cod]

Taki Minase (水無瀬 多喜 Minase Taki)
Dyma'r prif gymeriad sy'n ffindio'r llyfr hud a lledrith: y Beibl Du yn selar yr ysgol.
Kurumi Imari (伊万里 胡桃 Imari Kurumi)
Ffrind gorau Minase, a'i gariad.
Hiroko Takashiro (高城 寛子 Takashiro Hiroko)
Yr athro celf; mae hi'n poblogaidd efo'r myfyrwyr gan ei bod yn ddel ac mae ganddi personoliaeth hyfryd.
Reika Kitami (北見 麗華 Kitami Reika)
Nyrs yr ysgol, sy'n cyfrin iawn ac yn hoffi Minase.
Kaori Saeki (佐伯 香織 Saeki Kaori)
Disgybl run flwyddyn a Minase; mae ganddi obsesiwn efo black magic ac mae wedi cychwyn cwfen newydd.
Rika Shiraki (白木 里香 Shiraki Rika)
Pennaeth Undeb y Myfyrwyr. Mae hi'n boblogaidd iawn efo'r bechgyn ac mae wedi mopio ei phen yn lân efo Minase.
Jun Amatsuki (天月 純 Amatsuki Jun)
Aelod o gwfen Saeki’s.
Maki Kurimoto (栗本 真紀 Kurimoto Maki)
Aelod o gwfen Saeki’s.

Cymeriadau Bible Black: Origins[golygu | golygu cod]

Nami Kozono (小園 奈美 Kozono Nami)
Lesbian cyfrin sydd hefyd yn Llywydd Cyngor y Myfyrwyr.
Junko Mochida (持田 潤子 Mochida Junko)
Cariad Nami Kozono ac mae'n ei galw hi yn "Onee-sama" (Chwaer fawr). Hi ydy arbrawf cyntaf y cwfen: mae hud a lledrith yn cael ei rhoi arni sy'n ei gwneud hi hunan leddfu o flaen y dosbarth.

Nodynau[golygu | golygu cod]

  1. "Bible Black -La noche de walpurgis-" (yn Japanese). Getchu.com. Cyrchwyd 30 December 2009.CS1 maint: unrecognized language (link)