Betty Webb
Betty Webb | |
---|---|
Ganwyd | Charlotte Elizabeth Vine-Stevens ![]() 13 Mai 1923 ![]() Swydd Amwythig ![]() |
Bu farw | 31 Mawrth 2025 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | cêl-ddadansoddwr ![]() |
Gwobr/au | MBE, Chevalier de la Légion d'Honneur ![]() |
Torrwr cod o Loegr oedd Charlotte Elizabeth Webb MBE (ganwyd Vine-Stevens; 13 Mai 1923 – 31 Mawrth 2025)[1] [2]
Dechreuodd hi'n gweithio yn Bletchley Park yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn 18 oed. [3] [4] [5] Ym 1941 ymunodd â Gwasanaeth Tiriogaethol Ategol Prydain . [6] Yn ddiweddarach yn ei bywyd, meddai "Roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth mwy ar gyfer ymdrech y rhyfel na phobi rholiau selsig."[5]
Cafodd Charlotte ("Betty") ei geni yn Swydd Henffordd. [7] Cafodd ei magu ger Richard's Castle, ym mhentref Ryeford. Addysgwyd hi gartref, gan ei mam, Charlotte, gyda'i brawd. [7] Roedd hi'n astudio gwyddoniaeth ddomestig yng Ngholeg Radbrook yn Amwythig pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd. [8] Cafodd hyfforddiant sylfaenol ym Marics Hightown y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn Wrecsam. Ar ôl cyfweliad yn Devonshire House, Llundain, anfonwyd hi ar unwaith i Bletchley.[8] [5]
Penodwyd Webb yn Aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE) yn Anrhydeddau Pen-blwydd 2015 "am wasanaeth i gofio a hyrwyddo gwaith Parc Bletchley." [9][10] Yn 2021, cydnabuwyd gwaith Webb gan lywodraeth Ffrainc, gyda'i phenodiad yn Chevalier de la Légion d'Honneur.[11]
Yn 2023 fe’i gwahoddwyd i goroni’r Brenin Siarl ar 6 Mai ac eisteddodd yn y rheng flaen. Cafodd ei phenblwydd yn 100 oed ym mis Mai 2023 [12] . Bu farw yn 101 oed.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Keogh, Kat (5 Medi 2012). "Wythall woman's role as a WWII Enigma codebreaker at Bletchley Park". Birmingham Mail. Cyrchwyd 30 Ionawr 2015.
- ↑ "Women in IT Awards winners revealed at glitzy ceremony". Information Age. 29 Ionawr 2012. Cyrchwyd 30 Ionawr 2015.
- ↑ "Roll of Honour". Bletchley Park.
- ↑ "Michael Portillo hails Bletchley Park's secret heroes". Bletchley Park. 14 Ionawr 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Ionawr 2015. Cyrchwyd 30 Ionawr 2015.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 "'I wanted to do something more for the war effort than bake sausage rolls.'". Magazine (yn Saesneg). 2020-05-06. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Mai 2020. Cyrchwyd 2020-06-22.
- ↑ "Portrait painting: Betty Webb MBE | National Army Museum". www.nam.ac.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-02-28.
- ↑ 7.0 7.1 Webb, Betty (8 Awst 2023). No More Secrets: My part in codebreaking at Bletchley Park and the Pentagon (yn Saesneg). United Kingdom: Mardle Books. tt. 1–256. ISBN 978-1837700219.
- ↑ 8.0 8.1 Webb, Betty (2024-11-18). "Being a Bletchley Park codebreaker was the best time of my life". The Telegraph (yn Saesneg). ISSN 0307-1235. Cyrchwyd 2024-11-20.
- ↑ United Kingdom: London Gazette. 12 Mehefin 2015.
- ↑ Lusher, Adam (1 Ionawr 2018). "94-year-old Bletchley Park veteran: I helped defeat the Nazis in 1941 and I'm ready to fight fascism again now". The Independent. Cyrchwyd 5 Gorffennaf 2021.
- ↑ Harris, Tristan (3 Gorffennaf 2021). "Wythall's Bletchley Park veteran Betty Webb MBE is officially presented with the Légion d'Honneur by the French government". Bromsgrove Standard (yn Saesneg). Cyrchwyd 5 Gorffennaf 2021.
- ↑ "Betty Webb: Thousands wish codebreaker, 100, happy birthday". BBC News. 16 Mai 2023. Cyrchwyd 18 Mai 2023.