Betty Ford
| Betty Ford | |
|---|---|
| Ganwyd | Elizabeth Anne Bloomer Ford 8 Ebrill 1918 Chicago |
| Bu farw | 8 Gorffennaf 2011 Rancho Mirage |
| Man preswyl | Gerald R. Ford, Jr., House |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | dawnsiwr, ysgrifennwr, hunangofiannydd, model, ymgyrchydd dros hawliau merched, gwleidydd |
| Swydd | Prif Foneddiges yr Unol Daleithiau, Is-Brif Foneddiges yr Unol Daleithiau |
| Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol |
| Priod | Gerald Ford, William Warren |
| Plant | Michael Gerald Ford, John Gardner Ford, Steven Ford, Susan Ford |
| Gwobr/au | 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Oriel yr Anfarwolion Menywod Michigan, Gwobr Lasker-Bloomberg gwasanaeth cyhoeddus, Medal Aur y Gyngres, Medal Rhyddid yr Arlywydd |
| llofnod | |
Gwraig cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau Gerald Ford oedd Elizabeth Ann Bloomer Warren Ford, a oedd yn fwy adnabyddus fel Betty Ford (8 Ebrill 1918 – 8 Gorffennaf 2011[1][2]). Bu'n Brif Foneddiges yr Unol Daleithiau o 1974 tan 1977. Tra'r oedd yn Brif Foneddiges, bu'n weithgar o safbwynt polisi cymdeithasol a bu'n weithgar fel gwraig arlywyddol.
Bu'n boblogaidd iawn er gwaethaf ei safiad rhyddfrydol ar faterion cymdeithasol. Ymgyrchodd dros nifer o faterion sensitif y dydd gan gynnwys cancr y fron yn dilyn ei mastectomi yn 1974, hawliau merched, ffeministiaeth, erthyliad, cyffuriau, cyflog cyfartal a thrwy wneud sylwadau ar faterion y dydd - rhywbeth nad oedd unrhyw Brif Foneddiges wedi'i wneud cyn hynny. Cyhoeddodd yn y 1970 iddi frwydro'n galed yn erbyn alcoholiaeth a chyffuriau.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Nemy, Enid (8 Gorffennaf, 2011). Betty Ford, Former First Lady, Dies at 93. The New York Times.
- ↑ Staff (9 Gorffennaf, 2011). Former First Lady Betty Ford Dies at the Age of 93. CNN.
| Rhagflaenydd: Pat Nixon |
Prif Foneddiges yr Unol Daleithiau 1974 – 1977 |
Olynydd: Rosalynn Carter |