Betty Boothroyd
Betty Boothroyd | |
---|---|
Ganwyd | 8 Hydref 1929 Dewsbury |
Bu farw | 26 Chwefror 2023 Addenbrooke's Hospital |
Man preswyl | Caergrawnt |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | gwleidydd, hunangofiannydd |
Swydd | Llefarydd Tŷ'r Cyffredin, Aelod Senedd Ewrop, aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Chairman of Ways and Means, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Chancellor of the Open University |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur, Annibynnwr |
Tad | Ben Archibald Boothroyd |
Mam | Mary Butterfield |
Gwobr/au | Gradd er anrhydedd o Brifysgol Leeds, Urdd Teilyngdod |
llofnod | |
Roedd Betty Boothroyd, Barwnes Boothroyd, OM , yn wleidydd Prydeinig (8 Hydref 1929 – 26 Chwefror 2023) a wasanaethodd fel Aelod Seneddol (AS) dros West Bromwich a Gorllewin West Bromwich rhwng 1973 a 2000. Hi oedd y fenyw gyntaf i wasanaethu fel Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, [1]rhwng 1992 a 2000. [2] Eisteddodd Boothroyd yn ddiweddarach fel arglwydd traws-fainc yn Nhŷ'r Arglwyddi . [3]
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Cafodd Boothroyd ei geni yn Dewsbury, Swydd Efrog, yn 1929, yn ferch i Ben Archibald Boothroyd (1886-1948) a'i ail wraig Mary ( née Butterfield, 1901-1982), y ddau yn weithwyr tecstilau. Cafodd ei addysg yn ysgolion y cyngor ac aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg Masnach a Chelf Dewsbury ( Coleg Kirklees). Rhwng 1946 a 1952, bu'n gweithio fel dawnsiwr, fel aelod o gwmni dawnsio Tiller Girls, [4] gan ymddangos am gyfnod byr yn y Paladiwm Llundain.[5]
Yn yr 1950au, bu Boothroyd yn ysgrifennydd i'r ASau Llafur Barbara Castle [6] a Geoffrey de Freitas.[7] Ym 1960, teithiodd i'r Unol Daleithiau i weld ymgyrch Kennedy . Dechreuodd weithio yn Washington DC fel cynorthwydd deddfwriaethol i Gyngreswr Americanaidd, Silvio Conte. Dychwelodd i Lundain ac wedyn parhaodd â'i gwaith fel ysgrifennydd i wleidyddion Llafur, yn gynnwys Harry Walston . [8] Ym 1965, cafodd ei hethol i sedd ar Gyngor Bwrdeistref Hammersmith, lle y bu hyd 1968. [9][10]
Cafodd Boothroyd ei ethol yn Aelod Seneddol (AS) dros West Bromwich mewn isetholiad yn 1973. [9]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Morris, Sophie (27 Chwefror 2023). "Baroness Boothroyd, first female Speaker of the House of Commons, has died aged 93" (yn Saesneg). Sky News. Cyrchwyd 27 Chwefror 2023.
- ↑ "Miss Betty Boothroyd". Hansard. Cyrchwyd 13 May 2021.
- ↑ "Parliamentary career for Baroness Boothroyd – MPs and Lords – UK Parliament" (yn Saesneg). Parliament of the United Kingdom. Cyrchwyd 13 Mai 2021.
- ↑ "Betty Boothroyd: To Parliament and beyond". BBC. 24 Hydref 2001. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 May 2009. Cyrchwyd 21 Ionawr 2009.
- ↑ "Betty Boothroyd Biography |" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Gorffennaf 2019. Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2019.
- ↑ "Baroness Boothroyd". UK Parliament Website (yn Saesneg). Parliament of the United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mawrth 2016. Cyrchwyd 19 Chwefror 2016.
- ↑ Political Correspondent (9 November 1957). "Sir Victor Raikes Resigns Seat". The Times.
- ↑ Betty Boothroyd Autobiography Paperback – 3 Oct 2002 (synopsis). Nodyn:ASIN.
- ↑ 9.0 9.1 "Exhibition: Betty Boothroyd". Open University. Cyrchwyd 3 Mai 2022.
- ↑ "London Borough Council Elections 7 May 1964" (PDF). London Datastore (yn Saesneg). London County Council. Cyrchwyd 3 Mai 2022.