Besalú

Oddi ar Wicipedia
 Rhybudd! Mae angen cywiro iaith yr erthygl hon.
Beth am fynd ati i'w chywiro?

Dyma restr o erthyglau i'w cywiro: Tudalennau â phroblemau ieithyddol.

Besalú
Bwrdeistref
Skyline of Besalú
Baner Besalú
Baner
Arfbais Besalú
Arfbais
Gwlad Spain/Sbaen
Community/Cymuned Catalonia
Province/TalaithGirona
ComarcaGarrotxa
Llywodraeth
 • MaerLluís Guinó Subirós (2015)[1]
Arwynebedd[2]
 • Cyfanswm4.9 km2 (1.9 mi sg)
Uchder151 m (495 tr)
Poblogaeth (2014)[1]
 • Cyfanswm2,400
 • Dwysedd490/km2 (1,300/mi sg)
DemonymBesaluenc
Websitewww.besalu.cat

Besalú (Ynganiad Catalanaidd: Lua error in package.lua at line 80: module 'Module:IPA/data' not found.) tref yn comarca  Garrotxa, yn Girona, Catalonia,/Catalwnia, Sbaen.

Roedd pwysigrwydd y dref yn fwy yn y Canol Oesoedd cynnar, fel prif ddinas sir Besalú (county of Besalú), gyda'i thiriogaeth tua'r un maint â 'comarca' (rhanbarth gweinyddol) presenol Garrotxa ond weithiau a ymestynnai cyn belled â Corbières, Aude, yn Ffrainc. Cafodd Wilfred the Hairy, Iarll Besalú y clod am uno Catalwnia. Roedd y dref hefyd yn fan geni Raimon Vidal, troubadour/trwbadŵr canoloesol.

Penodwyd Besalú yn eiddo hanesyddol cenedlaethol ("conjunt històric-artístic") yn 1966. Nodwedd mwyaf pwysig y dref yw'r bont Romanésg/Romanesque o'r 12g tros yr afon Fluvià, gyda'i borth hanner ffordd ar draws ei hyd. Cysegrwyd eglwys San Pere yn y dref yn 1003. Mae i'r dref strydoedd a sgwariau pendistiog a hefyd  mikveh wedi ei adnewyddu, baddon seremonïol Iddewig yn dyddio o'r 11g neu 12g, yn ogystal â gweddillion synagog canol oesol, wedi'i leoli yn rhan isaf y dref ger yr afon (gweler 'Hanes' isod hefyd). Hefyd ym Mesalú mae'r Amgueddfa y Miniaturau a grëwyd gan y gemydd a chasglwr celf Lluís Carreras.[3]

Hanes[golygu | golygu cod]

Daw'r new Besalú o'r Lladin Bisuldunum, yn golygu 'caer ar fynydd rhwng dwy afon.' Mae'n hefyd yn brifddinas hanesyddol sir “La Garrotxa”. Daw ei hanes o wreiddiau cenedl Catalwnia. Un flwyddyn allweddol yw 894 pan addaswyd i sir gyda'i brenhinlin ei hun. Newidiwyd y sir o "L’Empordà" i "El Ripollès". Yn y flwyddyn 1111 collodd Besalú ei hanibynniaeth  am resymau hanesyddol er lles sir Barcelona. Canrifoedd wedyn, dechreuodd Besalú amser dirwyiedig, a waethygwyd gan adbryniadau, rhyfeloedd gyda'r Ffrancwyr a Charlwyr. Yn 1966 datganwyd  Besalú yn adral o bwysigrwydd hanesyddol a chelfydol. 

Cofadail[golygu | golygu cod]

Fe amgylchynnir y gofadail/cofgolofn gan fur hynafol oddeutu'r 12g–14g. Yn anffodus dim ond rhannau o'r fur wreiddiol sydd ar ôl erbyn heddiw. Mae'r gyfluniad drefol o'r fan bron yn union yr un fath a'r cynllun gwreiddiol. Yn ddi-amau, y bont ganol oesol yw symbol y dref, gyda chynllun onglog a saith arch anwastad a dau dwr. Mae i'r rhan o'r dref sydd agosaf at y bont nifer o strydoedd cul sydd yn perthyn i'r chwarter Iddewig hynafol. Yn y rhan yma hefyd y ceir y Miqvé  - y baddonau pureiddio sydd yn dyddio o'r 12g, sydd hefyd yn profi presenoldeb cymuned Iddewig bwysig. O'r bont hynafol daw'r stryd at Sgwâr y Dref/Placa Major, sydd a phendistaiau o'r 15g a arferid fod yn ganolfan ganoloesol y dref.

Lleolir adeiladau pwysig y Llywodraeth Leol - yr Ajuntament yn dyddio o'r ail ar 15g, y Curia Brenhinol/Cúria Reial, yn dyddio o'r 14g, â'r Casa Tallaferro. Dilynnai stryd Tallaferro i fynediad ardal y Castell. O fewn ur ardal yma ceir adfeilion un o dyrrau hynafol Castell y Sir, a chrongafell o'r Santes Fair/Santa Maria yn dyddio o'r 11g. Ynghyd â stryd Portalet dyma'r gweddillion sydd gorau gadw golwg ganol oesol y dref, a hefyd golygfa orau o'r Bont Romanésg. Yn dilyn fyny o'r Carrer Major mae Casa Romà (14g) ac eglwys y llan Sant Finsent/Sant Vincenc  o'r 11/12g hefo'i ddrysau a ffenestri cerfluniol.

Yn agos i Placa Major y ceir y Prat de Sant Pere eang, lle arferid fod yn Fynwent Benedictaidd  i fynachlog Sant Pere. Heddiw yr unig weddillion o'r fynachlog yw'r eglwys deir-gorff ac un crongyfell, o'r 11g. Yno hefyd mae capel Sant Iago/Sant Jaume o'r 12g a Casa Cornellà (Llaudes) gyda'i phatio a thair galeri o'r 12g. Tu ôl i'r fynachlog mae eglwys ac ysbyty Sant Julià, gyda un eglwys-gorff a dim crongyfell o'r 12g gyda mynedfa neilltuol. 

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

  • Sir Besalú/County of Besalú
  • Is-iarllaeth Besalú/Viscounty of Besalú
  1. 1.0 1.1 "Ajuntament de Besalú". Generalitat of Catalonia. Cyrchwyd 2015-11-13.[dolen marw]
  2. "El municipi en xifres: Besalú". Statistical Institute of Catalonia. Cyrchwyd 2015-11-23.
  3. "Museu de miniatures i microminiatures Besalú". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-12-27. Cyrchwyd 2017-01-09.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: