Y Bers
![]() | |
Math |
anheddiad dynol ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Wrecsam ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
53.0357°N 3.0349°W ![]() |
Cod OS |
SJ306491 ![]() |
Cod post |
LL14 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Ken Skates (Llafur) |
AS/au | Susan Elan Jones (Llafur) |
Pentref ym mwrdeisdref sirol Wrecsam yw Y Bers (Saesneg: Bersham). Saif gerllaw Afon Clywedog, ychydig oddi ar y briffordd A483, i'r gogledd-orllewin o bentref Rhostyllen.
Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Ken Skates (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Susan Elan Jones (Llafur).[1][2]
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'r Bers o bwysigrwydd mawr yn hanes y Chwyldro Diwydiannol, yn enwedig diwydiant haearn Cymru. Yma yr oedd gweithdai y Brodyr Davies, yma y dechreuodd cynhyrchu haearn modern am y tro cyntaf ym Mhrydain yn 1670 a lle y sefydlodd John Wilkinson ei weithdy yn 1761. Am gyfnod hir, roedd yr ardal yn un o'r canolfannau cynhyrchu haearn pwysicaf yn y byd. Mae Gwaith Haearn y Bers yn awr yn amgueddfa sy'n adrodd yr hanes. Roedd Pwll Glo Glanyrafon (Saesneg: Bersham Colliery) ym mhentref cyfagos Rhostyllen.
Gerllaw'r pentref mae Coed Plas Power, 33.7ha o goedwig ar hyd Afon Clywedog rhwng Coedpoeth a'r Bers. Ceir rhan o Glawdd Offa yn y coed yma.
Saif tomen mwnt a beili o'r enw Castell Cadwgan nepell o'r pentref.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
Acrefair · Bangor-is-y-coed · Y Bers · Bronington · Brymbo · Brynhyfryd · Bwlchgwyn · Caego · Cefn Mawr · Coedpoeth · Erbistog · Froncysyllte · Garth · Glanrafon · Glyn Ceiriog · Gresffordd · Gwersyllt · Hanmer · Holt · Johnstown · Llai · Llanarmon Dyffryn Ceiriog · Llannerch Banna · Llan-y-pwll · Llechrydau · Llys Bedydd · Marchwiail · Marford · Y Mwynglawdd · Yr Orsedd · Owrtyn · Y Pandy · Pentre Bychan · Pentredŵr · Pen-y-bryn · Pen-y-cae · Ponciau · Pontfadog · Rhiwabon · Rhosddu · Rhosllannerchrugog · Rhostyllen · Rhosymedre · Talwrn Green · Trefor · Tregeiriog · Y Waun · Wrecsam · Wrddymbre