Berria

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Berria
Berria Logo.svg
Math Papur newydd dyddiol
Golygydd Martxelo Otamendi
Sefydlwyd 21 Mehefin, 2013
Iaith Basgeg
Pencadlys Martin Ugalde Kultur Parkea, Andoain 20140
Gwefan swyddogol berria.eus
Cost 1.30

Berria (Basgeg: Newyddion) yw'r unig bapur newydd dyddiol a gyhoeddwyd yn gyfan gwbl yn Euskera (yr iaith Fasgeg) ac sydd yn cael ei ddosbarthu i holl rannau Gwlad y Basg. Fe'i sefydlwyd yn dilyn cau lawr y papur iaith Fasgeg flaenorol Egunkaria (Papur newydd), gan lywodraeth Sbaen ar ôl cael ei gyhuddo o gael cysylltiadau gydag ETA. [1] Ystyriwyd gwaharddiad Egunkaria yn ymosodiad ar ryddid barn a'r iaith Fasged gan lawer o bobl yng Ngwlad y Basg a thu hwnt.[2] Wedi 7 mlynedd ym mis Ebrill 2010, cafodd y tîm golygyddol yn ddieuog a'u rhyddhau.[3][4] Ceir erthygl am gau Egunkaria yn 'The Phenomenon of Welshness II - is Wales too Poor t be Independent?' (Siôn T. Jobbins, Gwasg Carreg Gwalch, 2013).

Cyhoeddir Berria yn ddyddiol heblaw ar Ddydd Llun. Ymddangosodd y rhifyn cyntaf ar 21 Mehefin 2003. Mae pencadlys y papur yn Andoain, Gipuzkoa, Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg. Mae hefyd canolfannau yn Vitoria-Gasteiz, Pamplona, Bilbao a Bayonne.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]