Bernadette Devlin McAliskey
Bernadette Devlin McAliskey | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 23 Ebrill 1947 ![]() Cookstown ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd ![]() |
Swydd | Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU ![]() |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Plaid Sosialaidd Annibynnol, Plaid Sosialaidd Weriniaethol Iwerddon, Unity ![]() |
Plant | Róisín McAliskey ![]() |
Arweinydd hawliau sifil Gwyddelig a chyn wleidydd yw Josephine Bernadette McAliskey (née Devlin; ganwyd 23 Ebrill 1947), a elwir fel arfer yn Bernadette Devlin.[1] Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol (AS) dros Ganol Ulster yng Ngogledd Iwerddon rhwng 1969 a 1974. Daeth McAliskey i amlygrwydd cenedlaethol a rhyngwladol yn 21 oed pan ddaeth y person ieuengaf erioed (ar y pryd) i ddod yn aelod o Senedd Prydain.
Torrodd McAliskey y polisi gweriniaethol Gwyddelig traddodiadol o ymatal rhag cymryd eu seddi. a chymerodd ei sedd yn San Steffan. Roedd hyn ar ddechrau'r cyfnod a elwir Helyntion (Saesneg: the Troubles), cyfnod o wrthdaro rhwng milwyr Lloegr a'r Gwyddelod Catholig yng Ngogledd Iwerddon a barodd am y 30 mlynedd nesaf. Am y rhan fwyaf o'r amser hwnnw, byddai McAliskey yn wleidyddol weithgar, gan eiriol dros weriniaeth Wyddelig sosialaidd o 32 sir i ddisodli gafael y Saeson ar ogledd yr ynys. Fe'i cysylltir yn wreiddiol â grŵp Democratiaeth y Bobl, cyn i McAliskey yn ddiweddarach sefydlu Plaid Sosialaidd Weriniaethol Iwerddon. Fodd bynnag, gadawodd McAliskey y blaid ar ôl blwyddyn pan bleidleisiodd yr aelodau nad oedd yn rhaid i'w adain barafilwrol, y Irish National Liberation Army, ufuddhau i'r adain wleidyddol.
Parhaodd McAliskey i fod yn wleidyddol weithgar e.e. yn ystod streic newyn Iwerddon 1981 pan oroesodd hi a'i gŵr ymgais i'w llofruddio gan unoliaethwyr cudd o Gymdeithas Amddiffyn Ulster, (yr UDA) parafilwr teyrngarol o Ulster .
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganed Devlin yn Cookstown, Swydd Tyrone, i deulu Catholig, y trydydd o chwe phlentyn a aned i John James ac Elizabeth Bernadette Devlin. Cododd ei thad hi i ddal delfrydau Gweriniaethol Gwyddelig cyn iddo farw pan oedd Bernadette yn naw oed. Yn dilyn hynny, bu'n rhaid i'r teulu ddibynnu ar les i oroesi, profiad a effeithiodd yn ddwfn ar Bernadette. Bu farw mam Bernadette pan oedd Bernadette yn un deg naw oed, gan ei gadael i fagu ei brodyr a'i chwiorydd yn rhannol tra hefyd yn mynychu'r brifysgol.[2]
Mynychodd Academi Merched Sant Padrig yn Dungannon cyn mynd ati i astudio seicoleg ym Mhrifysgol y Frenhines, Belffast yn 1968 pan gymerodd ran amlwg mewn mudiad hawliau sifil dan arweiniad myfyrwyr a'r grwp, People's Democracy.[3] Yn dilyn cwynion gan wleidyddion Unoliaethol, dirymwyd ysgoloriaeth Devlin a gwrthodwyd caniatáu iddi sefyll ei harholiadau terfynol.[4] Nid yw Prifysgol y Frenhines erioed wedi cynnig ymddiheuriad ffurfiol i Devlin, ond mae Devlin wedi datgan na fyddai'n derbyn un hyd yn oed pe bai'n cael ei gynnig.[4]
Gweithredu'n wleidyddol
[golygu | golygu cod]Safodd yn aflwyddiannus yn erbyn James Chichester-Clark yn etholiad cyffredinol Gogledd Iwerddon 1969. Pan fu farw George Forrest, AS Canol Ulster, ymladdodd yr isetholiad dilynol fel cynrychiolydd o'r blaid "Unity", gan drechu ymgeisydd Plaid Unoliaethol Ulster, Anna sef gweddw Forrest, a chafodd ei hethol i Senedd San Steffan. Yn 21 oed, hi oedd yr AS ieuengaf ar y pryd, a pharhaodd y fenyw ieuengaf erioed i gael ei hethol i San Steffan tan etholiad cyffredinol Mai 2015 pan lwyddodd Mhairi Black, 20 oed, i guro camp Devlin.[5][6]
Safodd Devlin ar y slogan "I will take my seat and fight for your rights" - arwydd ei bod yn gwrthod egwyddor draddodiadol gweriniaethol Iwerddon o ymatal. Ar 22 Ebrill 1969, y diwrnod cyn ei phen-blwydd yn 22 oed, tyngodd y Llw Teyrngarwch i Frenhines Lloegr a thraddododd ei haraith gyntaf o fewn awr.
Brwydr y Bogside
[golygu | golygu cod]Ar ôl cymryd rhan, ar ochr y trigolion lleol, ym Mrwydr y Bogside yn Awst, fe’i cafwyd yn euog o gymell terfysg yn Rhagfyr 1969, a threuliodd chwe mis mewn carchar.[7][8] Ar ôl cael ei hailethol yn etholiad cyffredinol 1970, datganodd Devlin y byddai'n eistedd yn y Senedd fel sosialydd annibynnol.
Taith UDA a chyfarfodydd gyda Black Panthers
[golygu | golygu cod]Bron yn syth ar ôl Brwydr y Bogside, aeth Devlin ar daith o amgylch yr Unol Daleithiau yn Awst 1969, taith a ddenodd gryn dipyn o sylw yn y cyfryngau. Cyfarfu ag aelodau o'r Black Panther yn Watts, Los Angeles a rhoddodd ei chefnogaeth iddynt. Ymddangosodd ar Meet the Press a The Tonight Show Starring Johnny Carson. Mewn sawl araith, dyluniodd y tebygrwydd rhwng brwydr y Duon yn yr Unol Daleithiau gan Americanwyr Affricanaidd a Chatholigion Gogledd Iwerddon.
Yn Detroit, gwrthododd fynd ar y llwyfan nes bod Americanwyr Affricanaidd, a oedd wedi'u gwahardd o'r digwyddiad, yn cael caniatad i ddod i mewn. Yn Efrog Newydd, trefnodd y Maer John Lindsay seremoni i gyflwyno allwedd Dinas Efrog Newydd i Devlin. Gadawodd Devlin yr UDA wedi'i siomi yng ngheidwadwyr y gymuned Wyddelig-Americanaidd, a ddychwelodd i Ogledd Iwerddon. Yno mynnodd y dylai allwedd rhyddid Efrog Newydd fynd i dlodion America, ac anfonodd Eamonn McCann i gyflwyno'r allwedd ar ei rhan i gynrychiolydd o gell Harlem o Blaid y Black Panthers.[9][10]
Bloody Sunday
[golygu | golygu cod]- Prif: Bloody Sunday Derry 1972
Ar ôl bod yn dyst i gyflafan Bloody Sunday yn Derry yn 1972, cynddeiriogwyd Devlin bod Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, Selwyn Lloyd wedi gwrthod caniatau iddi rhag siarad, yn gyson, er gwaethaf y ffaith bod confensiwn seneddol yn mynnu y dylai unrhyw Aelod Seneddol a oedd yn dyst i ddigwyddiad gael y cyfle i siarad am y digwyddiad hwnnw.[11]
Y diwrnod ar ôl Bloody Sunday, fe drawodd Devlin yr Ysgrifennydd Cartref Ceidwadol Reginald Maudling. Gwnaeth hyn gan i Maudling ddweud fod y Gatrawd Barasiwt wedi tanio i'r dorf er mwyn amddiffyn eu hunain.[12] Pan ofynnwyd iddi gan y wasg a oedd hi’n bwriadu ymddiheuro i Maudling, dywedodd Devlin: “Mae’n ddrwg gen i na wnes i afael ynddo gerfydd ei wddf".
Ymddangosodd Devlin ar Firing Line yn 1972 i drafod y sefyllfa yng Ngogledd Iwerddon.[13]
Plaid Sosialaidd Weriniaethol Iwerddon
[golygu | golygu cod]Cynorthwyodd Devlin i ffurfio Plaid Sosialaidd Weriniaethol Iwerddon (IRSP) gyda Seamus Costello ym 1974.[14] Torrodd y grwp yn rhydd oddi wrth Sinn Féin Swyddogol (Gwyddeleg: Páirtí na nOibrithe) ac, yn ddiweddarach yr un diwrnod, creodd Costello The Irish National Liberation Army (INLA) hefyd fel rhaniad oddi wrth Fyddin Weriniaethol Swyddogol Iwerddon (yr Official IRA).[15] Ni ymunodd Devlin â'r INLA a thra bu'n gwasanaethu ar bwyllgor gwaith cenedlaethol y blaid ym 1975, ymddiswyddodd pan drechwyd cynnig i'r INLA ddod yn eilradd i'r blaid. Ym 1977 ymunodd â'r Blaid Sosialaidd Annibynnol, ond daeth honno i ben y flwyddyn ganlynol.
Cefnogaeth i garcharorion
[golygu | golygu cod]Safodd McAliskey fel ymgeisydd annibynnol i gefnogi’r carcharorion ar brotest y blancedi a’r brotest fudr yng ngharchar Long Kesh yn etholiadau 1979 i Senedd Ewrop yn etholaeth Gogledd Iwerddon, ac enillodd 5.9% o’r bleidlais.[16] Roedd hi'n llefarydd blaenllaw i'r Smash H-Block Campaign, a chefnogodd y streiciau newyn ym 1980 a 1981.
Ym Medi 1981 aeth McAliskey ar daith i gyfandir Ewrop i geisio codi cefnogaeth i'r streicwyr. Cafodd ei halltudio o Sbaen yr eiliad y glaniodd ym maes awyr Barcelona. Oherwydd hynny, hedfanodd McAliskey i Baris a galw ar Undebau Llafur Ffrainc i osod embargo ar drin nwyddau Prydeinig nes i'r streiciau newyn ddod i ben.[17]
Ymgais i'w llofruddio
[golygu | golygu cod]Ar 16 Ionawr 1981, ymosodwyd ar Devlin a'i gŵr gan aelodau o'r <i>Ulster Freedom Fighters</i>, enw amgen am yr <i>Ulster Defence Association</i> (UDA), a dorrodd i mewn i'w cartref ger Coalisland, Swydd Tyrone. Saethodd y dynion Devlin naw gwaith o flaen ei phlant.
Roedd milwyr Lloegr yn gwylio cartref McAliskey ar y pryd, ond ni wnaethon nhw atal yr ymgais hwn i'w llofruddio. Yn dilyn hynny, gwnaed honiadau bod elfennau o fyddin Lloegr wedi cydgynllwynio â'r UDA i'w llofruddio.[18][19] Daeth patrôl y fyddin i mewn i’r tŷ ar ôl aros y tu allan am hanner awr. Ymddengys fod y milwyr "yno i wneud yn siŵr bod dynion yr UDA yn mynd i mewn i'm tŷ ac iddynt gael eu dal ar y ffordd allan." Cyrhaeddodd milwyr o Ucheldir Argyll a Sutherland (ASH) wedyn a’i chludo mewn hofrennydd i ysbyty cyfagos.
Roedd y parafilitariaid wedi rhwygo gwifrau ffôn cartref Devlin, ond wedi beth amser cludwyd y cwpl mewn hofrennydd i ysbyty yn Dungannon gerllaw i gael triniaeth frys ac yna i Ysbyty Musgrave Park, Adain Filwrol, yn Belfast, lle bu'r ddau dan ofal dwys.
Cafodd yr ymosodwyr— Ray Smallwoods, Tom Graham (38), y ddau o Lisburn, ac Andrew Watson (25) o Seymour Hill, Dunmurry - eu dal gan batrôl y fyddin a’u carcharu. Roedd y tri yn aelodau o UDA De Belfast. Smallwoods oedd gyrrwr y car getaway.
Rhaglen Grymuso De Tyrone
[golygu | golygu cod]McAliskey yw prif weithredwr Rhaglen Grymuso De Tyrone (STEP) a sefydlodd ym 1997.[20] Mae STEP yn darparu amrywiaeth o wasanaethau ac eiriolaeth mewn meysydd gan gynnwys datblygu cymunedol, hyfforddiant, cymorth a chyngor i ymfudwyr, gwaith polisi, a menter gymunedol.[21]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Ym 1971, rhoddodd enedigaeth i merch, Róisín Michael McAliskey ,[12] a chollodd rywfaint o gefnogaeth wleidyddol gan ei bod yn ddibriod.[22] Priododd yn ddiweddarach â thad Róisín ar ei phen-blwydd yn 26 a hynny ar 23 Ebrill 1973.[23]
Mewn diwylliant poblogaidd
[golygu | golygu cod]Ym 1969, gwnaeth y cyfarwyddwr a chynhyrchydd John Goldschmidt y ffilm ddogfen Bernadette Devlin ar gyfer ATV, a ddangoswyd ar y sianel deledu Brydeinig ITV ac ar raglen 60 Minutes CBS y sianel deledu Americanaidd, ac a oedd yn cynnwys ffilm o Devlin yn ystod Brwydr y Bogside. Cafodd ei chyfweld yn drylwyr hefyd gan Marcel Ophüls yn A Sense of Loss (1972). Rhyddhawyd rhaglen ddogfen arall, Bernadette: Notes on a Political Journey, a gyfarwyddwyd gan y gwneuthurwr rhaglenni Gwyddelig Leila Doolan, yn 2011. Yng Ngŵyl Ffilm Cannes 2008 cyhoeddwyd ffilm fywgraffyddol o Devlin,[24] ond dywedodd fod "yr holl gysyniad yn wrthun i mi" ac ni wnaethpwyd y ffilm.
Yn 1990 rhyddhawyd cân deitl albwm o gerddoriaeth, Slap! yn seiliedig ar ymosodiad Devlin ar Reginald Maudling AS gan y band pop/pync anarchaidd Chumbawamba.[25][26]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Miss Bernadette Devlin (Hansard)". Parliamentary Debates (Hansard). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 June 2018. Cyrchwyd 2021-05-11.
- ↑ Johnson Lewis, Jone (8 March 2019). "Bernadette Devlin Profile". thoughtco.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 November 2019. Cyrchwyd 18 November 2019.
- ↑ Moreton, Cole (5 October 2008). "Bernadette McAliskey: Return of the Roaring Girl". Independent on Sunday. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 December 2008. Cyrchwyd 5 October 2008.
- ↑ 4.0 4.1 Meredith, Robbie. "Bernadette McAliskey: Too late for QUB to apologise for expulsion". BBC News. Cyrchwyd 18 August 2024.
- ↑ Moreton, Cole (5 October 2008). "Bernadette McAliskey: Return of the Roaring Girl". Independent on Sunday. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 December 2008. Cyrchwyd 5 October 2008.Moreton, Cole (5 October 2008).
- ↑ Holland, Kitty (22 September 2016). "Bernadette McAliskey: "I am astounded I survived. I made mad decisions."". Irish Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 February 2020. Cyrchwyd 15 April 2019.
- ↑ "House of Commons Briefing Paper" (PDF). parliament.uk. House of Commons Library. 14 March 2019. Cyrchwyd 11 July 2024.
- ↑ "ON THIS DAY - Dates - 26 - 1970 Violence flares as Devlin is arrested". 1 February 2003. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 February 2003. Cyrchwyd 1 April 2021.
- ↑ Keenan-Thomson, Tara (August 2009). "'Fidel Castro in a miniskirt': Bernadette Devlin's first US tour". historyireland.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 November 2019. Cyrchwyd 18 November 2019.
- ↑ Dooley, Brian (1998). Black and Green: The Fight for Civil Rights in Northern Ireland & Black America. Pluto Press. t. 66. ISBN 978-0-7453-1295-8.
- ↑ Ros Wynne-Jones (9 March 1997). "Daughters of Ireland". The Independent. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 May 2008. Cyrchwyd 2 June 2007.
- ↑ 12.0 12.1 Moreton, Cole (5 October 2008). "Bernadette McAliskey: Return of the Roaring Girl". Independent on Sunday. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 December 2008. Cyrchwyd 5 October 2008.Moreton, Cole (5 October 2008).
- ↑ Cousins, Mark (2019). "Dear Boris Johnson, watch these six films before you rip up the Irish backstop and trigger violence". The Guardian. Cyrchwyd 17 October 2021.
We showed this 58-minute interview...William Buckley was American aristocracy; Devlin was born in County Tyrone. Their conversation is an espresso hit.
- ↑ "Irish Republican Socialist Party Loses Members 1975". rte.ie. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 December 2016. Cyrchwyd 25 December 2016.
- ↑ Holland, Jack; McDonald, Henry (1996). INLA Deadly Divisions. Poolbeg. t. 49. ISBN 1-85371-263-9.
- ↑ Nicholas Whyte (18 April 2004). "Northern Ireland and the European Parliament". ARK. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 April 2007. Cyrchwyd 11 March 2007.
- ↑ "Bernadette Devlin in France To Gain Support for I.R.A Fast". New York Times. 11 September 1981. Cyrchwyd 18 August 2024.
- ↑ Moreton, Cole (5 October 2008). "Bernadette McAliskey: Return of the Roaring Girl". Independent on Sunday. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 December 2008. Cyrchwyd 5 October 2008.Moreton, Cole (5 October 2008).
- ↑ Taylor, Peter (1999). Loyalists. Bloomsbury Publishing. t. 168. ISBN 0-7475-4519-7.
- ↑ Moriarty, Gerry (1 July 2016). "Brexit campaign in North 'played on racism and emotions'". The Irish Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 September 2017. Cyrchwyd 20 June 2018.
- ↑ "STEP – South Tyrone Empowerment Programme". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 October 2016. Cyrchwyd 20 June 2018.
- ↑ "1969: "Devlin is youngest-ever woman MP"". BBC. 17 April 1969. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 June 2007. Cyrchwyd 2 June 2007.
- ↑ Holland, Kitty (22 September 2016). "Bernadette McAliskey: 'I am astounded I survived. I made mad decisions'". The Irish Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 February 2020. Cyrchwyd 20 June 2018.
- ↑ Moreton, Cole (5 October 2008). "Bernadette McAliskey: Return of the Roaring Girl". Independent on Sunday. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 December 2008. Cyrchwyd 5 October 2008.Moreton, Cole (5 October 2008).
- ↑ "Slap!".
- ↑ McDonald, Steven. "Slap!". AllMusic. Cyrchwyd 2023-05-29.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Cyfweliad Podlediad gyda Bernadette Devlin McAliskey . Podlediad y Blindboy . 2018
- Darlith Gyhoeddus gan Bernadette Devlin McAliskey. 'A Terrible State of Chassis', Derry, 2016 (51 mun. fideo) , Diwrnod Maes, 30 Medi 2016 .
- McAliskey, Bernadette Devlin. The Price of My Soul (Rhagair a Phennod Deuddeg) Archifwyd 2011-08-06 yn y Peiriant Wayback, cain.ulst.ac.uk; cyrchwyd 8 Awst 2015.
- McIntyre, Anthony. "Gwybod Gormod a'i Ddweud yn Rhy Dda: Bernadette McAliskey Wedi'i Gwahardd o'r UD", lark.phoblacht.net, 23 Chwefror 2003; cyrchwyd 8 Awst 2015.
- Cyfweliad gyda Peter Stanford, Independent.co.uk, 29 Gorffennaf 2007.
- Genedigaethau 1947
- Gwleidyddion Gwyddelig
- Aelodau Seneddol y Deyrnas Unedig
- Cenedlaetholwyr Gwyddelig
- Pobl o Ogledd Iwerddon
- Merched yr 20fed ganrif o Ogledd Iwerddon
- Merched yr 21ain ganrif o Ogledd Iwerddon
- Pobl o Swydd Antrim
- Gwleidyddion Gogledd Iwerddon
- Ymgyrchwyr o Ogledd Iwerddon
- Troseddwyr o Ogledd Iwerddon