Bennett Arron

Oddi ar Wicipedia
Bennett Arron
Ganwyd1973 Edit this on Wikidata
Port Talbot Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethdigrifwr Edit this on Wikidata

Mae Bennett Arron (ganwyd 1973) yn awdur Iddewig a Chymreig ac yn ddigrifwr stand-yp [1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Wedi'i eni ym Mhort Talbot a'i addysgu yn Ysgol Gyfun Glan Afan, symudodd Bennett i Lundain i fynychu'r ysgol ddrama'r Academi Celfyddydau Byw ac ar Record. Ar ôl gadael ysgol ddrama, ffurfiodd y grŵp sgetsh 4-Ply a teithiol lleoliadau ledled ynysoedd Prydain gan gynnwys Gŵyl Caeredin.

Gwobrau[golygu | golygu cod]

Ym 1997, roedd Arron yn rownd derfynol Gwobrau Comedi Newydd y BBC, ochr yn ochr â Peter Kay. Mae wedi ennill Gwobr Ysgrifennu Newydd BBC Cymru a Gwobr Ysgrifennwr y Flwyddyn TAPS Comedy.

Gwaith[golygu | golygu cod]

Mae wedi ysgrifennu a serennu yn y cyfresi Radio i'r BBC Bennett Arron is JeWelsh a Bennett Arron Worries About ..., cafodd y ddwy sioe eu henwebu am y Wobr Cyfryngau Celtaidd. Cyflwynodd rhaglen dogfen ar gyfer teledu'r BBC The Kosher Comedian lle'r oedd yn olrhain gwreiddiau ei deulu o Lithwania i Dde Cymru ac yn darganfod y rheswm dros ddirywiad presenoldeb Iddewon yng Nghymru[1]. Yn 2007, ysgrifennodd, cyfarwyddodd a chyflwynodd y rhaglen ddogfen How Not to Lose Your Identity ar gyfer Channel 4 a oedd yn seiliedig ar ei brofiad ei hun o dwyll hunaniaeth.[2] Yn y rhaglen, profodd pa mor hawdd yw hi i gyflawni'r trosedd trwy chwilota trwy finiau sbwriel, a pherswadio pobl i rannu gwybodaeth gyfrinachol yn ddiarwybod iddynt. Bu hyd yn oed yn cynnal stondin mewn canolfan siopa, oedd yn honni gwerthu yswiriant dwyn hunaniaeth, ond mewn gwirionedd roedd yn sgamio pobl i ddatgelu eu holl wybodaeth bersonol. Llwyddodd i ddwyn hunaniaeth yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd, Charles Clarke, ac fe'i harestiwyd wedyn. Ysgrifennodd Bennett gofnod o'i brofiad Heard the One About Identity Theft?.

Ysgrifennodd Bennett Nofel Comedi Rhamantaidd, The Girl From The Discotheque,[3] gan dderbyn ymateb rhagorol gan y beirniaid. Dywedodd gan Ricky Gervais ei fod "Yn ddoniol o'i gychwyn i'w terfyn" a dywedodd Tony Parsons ei fod yn "Llyfr teimladwy, doniol, sy'n son am yr hyn y mae'r galon ei eisiau - waeth pa mor afresymol. Mae'n rhamant a chomedi gyda chalon wedi clwyfo".

Mae Bennett wedi ysgrifennu deunydd comedi ar gyfer Hale and Pace, Freddie Starr, The Real McCoy, Large, Stop the World, No Limit, The Varrell and Decker Show, Samstag Nacht, The April Hailer Show, The 11 O'Clock Show, Commercial Breakdown, RISE, So Graham Norton a sioe Jack Whitehall Hit the Road Jack. Mae wedi actio yn y ffilm Dead Long Enough gyda Michael Sheen.[4]

Yn ddiweddar, chwaraeodd ran Morris yn Radio 4 Sitcom ALONE

Mae hefyd wedi ysgrifennu ar gyfer comedïau sefyllfa, gan gynnwys Ed Stone is Dead (yn serennu Richard Blackwood ) a Sam's Game (yn serennu Davina McCall ac Ed Byrne ). Bu hefyd yn un o'r prif awduron ar gyfres dwy gyfres i blant; The Slammer (BBC One) a Genie in the House (y rhaglen fwyaf poblogaidd ar Nickelodeon .) Ysgrifennodd hefyd sawl pennod ar gyfer y sitcom i blant plant Which Is Witch?

Stand-yp[golygu | golygu cod]

Fel comedïwr stand-yp, mae Bennett wedi perfformio ym mhob prif leoliad yn y DU yn ogystal â pherfformio yn yr Emiradau Arabaidd Unedig, yr Almaen, Gwlad Pwyl ac Awstralia. Bu hefyd yn cefnogi Ricky Gervais ar rai o'i ddyddiadau taith.

Fe'i disgrifiwyd fel "Yn wirioneddol Wreiddiol a Diddorol" gan The Times a One of the best on the Circuit ..... a Welsh Seinfeld gan The Guardian.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Bevan, Nathan (11 Awst 2012). "Welsh Jewish stand-up Bennett Arron goes back to his roots". Wales Online. Cyrchwyd 16 Hydref 2019.
  2. Quinn, Karl (18 Mai, 2011). "Theft in the internet age: losing your identity is no joke". The Sydney Morning Herald. Cyrchwyd 16 Chwefror 2019. Check date values in: |date= (help)
  3. "THE GIRL FROM THE DISCOTHEQUE by Bennett Arron". Good Reads. Cyrchwyd 16 Chwefror 2019.
  4. "Bennett Arron". GORDON POOLE AGENCY LTD. Cyrchwyd 16 Chwefror 2019.