Ben Guerdane
Gwedd
| Math | bwrdeistref Tiwnisia |
|---|---|
| Poblogaeth | 79,912 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | delegation of Ben Gardane |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 33.1389°N 11.2167°E |
| Cod post | 4160 |
![]() | |
Tref fechan yn nhalaith Medenine yn ne-ddwyrain eithaf Tiwnisia yw Ben Guerdane. Mae ganddi boblogaeth o tua 3,000.
Gorwedd y dref tua 35 km o'r ffin rhwng Tiwnisia a Libia. Pan osodwyd embargo cludiant awyr ar y wlad honno yn 1992 am ei bod yn cael ei chyhuddo o fod yn gyfrifol am fomio'r awyren a syrthiodd ar Lockerbie, yr Alban, cafodd Ben Guerdane gyfnod llewyrchus oherwydd ei lleoliad ar un o'r ddwy ffordd sy'n cysylltu Libia â gweddill Gogledd Affrica.
Mae'r dref yn enwog yn lleol am ei farchnad sy'n gwerthu nwyddau rhad o Libia.
