Belyn o Lŷn

Oddi ar Wicipedia
Belyn o Lŷn
Ganwyd6 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru

Arwr Cymreig cynnar oedd Belyn o Lŷn (Hen Gymraeg: Belen o Leyn) (bu farw yn 627). Ceir dryswch yn nhraddodiad y Cymry rhwng Belyn/Belen a Melyn fab Cynfelyn, ond mae yna ddigon o dystiolaeth i brofi mai dau gymeriad sydd yma. Fel mae ei enw yn dangos, roedd yn frodor o Lŷn.[1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Cyfeirir at Felyn/Felen mewn dau o Drioedd Ynys Prydain. Fe'i enwir fel arweinydd yn un o "Dri Hualogion Deulu Ynys Prydain" mewn un triawd, sy'n enwi hefyd teulu (gosgordd) Cadwallon Lawhir (brenin teyrnas Gwynedd) a Rhiwallon fab Urien (Rhiwallon Wallt Banhadlen, mab Urien Rheged). Dywedir:

A theulu Belen o Leyn, yn ymladd ag Edwin ym mryn Edwin yn Rhos.[1]

Edwin, brenin Northumbria (m. 633) yw'r Edwin hwnnw. Mae'n bosibl fod yr enw Bryn Edwin yn cyfateb i Fryn yr Odyn, ger Llaneilian, cantref Rhos, yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Mae'n bosibl felly fod y triawd yn cyfeirio at frwydr rhwng Cadwallon o Wynedd ac Edwin yng ngogledd Cymru tua diwedd y 620au a bod Belyn/Belen yn un o'i gynghreiriad ac wedi cymryd rhan flaenllaw yn y frwydr gan ennill clod fawr iddo'i hun.[1]

Mewn amrywiad ar driawd arall rhoddir Belyn o Lŷn yn lle Melyn fab Cynfelyn fel arweinydd un o "Dair Gosgordd Addwyn" yr ynys.[1]

Cofnodir marwolaeth Belyn (Belin) yn yr Annales Cambriae am y flwyddyn 627 (er nad yw'r cronicl yn cyfeirio ato fel "Belyn o Lŷn").[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1978; argraffiad newydd diwygiedig, 1991).