Y Bardd Newydd

Enw oedd Y Bardd Newydd neu Y Beirdd Newydd ar ysgol answyddogol o feirdd yn yr iaith Gymraeg a fu'n weithredol yn ystod degawdau olaf y 19g,[1] and yn llwyddiannus iawn wrth gystadlu yn Eisteddfodau'r cyfnod.
Tarddiad yr Enw
[golygu | golygu cod]Daw'r enw "Bardd Newydd" o lith beirniadol a gyhoeddwyd yn y Geninen gan y beirniad a'r bardd Elphin yn 1895-96,[2] gyda'r "Newydd" yn dynodi'r genhedlaeth gyfredol o feirdd a'u gwahaniaethu gyda'r genhedlaeth flaenorol sef Ceiriog, Talhaiarn, Gwilym Hiraethog ac eraill.
Aestheteg y Mudiad
[golygu | golygu cod]Agwedd ar fynegiant Rhamantiaeth mewn Lenyddiaeth Gymraeg, pwysleisiai'r Bardd Newydd dwyster ac arucheledd, fel ymateb i'r arwynebolder y tybient oedd yn nodweddu gwaith beirdd poblogaidd y genhedlaeth flaenorol, megis Talhaiarn a Ceiriog.[1] Islwyn oedd y dylanwad mwyaf ar y Beirdd Newydd[1][3][4] ac mae elfennau o syniadaeth y mudiad i'w weld yn ei waith ef, er yr ystyrir ef yn ragflaenydd i'r mudiad yn hytrach nac yn aelod ohono ei hun.[5] Roedd nifer sylweddol o'r Beirdd Newydd yn weinidogion ymneilltuol ac roedd math o Gristnogaeth cyfriniol yn ganolog i'r syniadaeth: mewn darlith yn 1900 mynegodd J. T. Job mai swyddogaeth bardd oedd "sefyll rhwng y greadigaeth a Duw, a chyflwyno offrwm dyniolaeth i'r Anfeidrol."[3] Pwysleisiai'r Bardd Newydd y dylai barddoniaeth fod yn aruchel, yn ddifrifol, yn athronyddol ac yn ddwys: "...ystyrient y rhan fwyaf o farddoniaeth gyfoes yn ddiffygiol mewn dwyster meddwl."[1]
Beirniadwyd y Beirdd Newydd hyd yn oed yn ystod eu cyfnod eu hunain am fod eu gwaith yn aneglur.[1] Wrth ymafael tuag at arucheledd plediai'r Beirdd Newydd yr arwrgerdd[6] ac fe'u beirniadwyd gan rai am hyd eu pryddestau.[7] Beirniadodd Elphin y Bardd Newydd am ystyried y Goron yn uwch anrhydedd na'r Gadair.[2] Erbyn diwedd y ganrif roeddynt yn destun adwaith cynyddol yn eu herbyn oherwydd meithdeb ac aneglurdeb eu barddoniaeth. Cysylltir yr adwaith yn erbyn y Bardd Newydd gydag enwau fel John Morris-Jones a T. Gwynn Jones - a ddychanodd y Bardd Newydd yn y cerddi Cymru Fu, Cymru Fydd (Morris-Jones) a Gwlad y Gân (Gwynn) ac yn nofel Gwynn John Homer. Byddai'r enwau hyn yn dod yn adnabyddus fel rhan o'r dadeni mewn barddoniaeth Gymraeg a welwyd ar ddechrau'r 20g.
Beirdd a gysylltir â'r mudiad
[golygu | golygu cod]Set o syniadau ffasiynol ynghylch barddoniaeth oedd y Bardd Newydd yn hytrach na mudiad ag iddi aelodaeth benodol; nid oedd y beirdd a gysylltir â'r mudiad yn uniaethu â'r term nac yn ei ddefnyddio i gyfeirio atynt eu hunain, ac nid oes consensws clir bod rhai unigolion yn enghreifftiau o'r syniad ai peidio. Un enghraifft yw Elfed, sydd wedi'i ddisgrifio felly mewn rhai ffynonellau[8] tra bod eraill yn gwrthod y term.[9] Fodd bynnag, mae'r canlynol ymhlith y beirdd Cymraeg sydd wedi eu cysylltu â'r mudiad gan o leiaf rhai ffynonellau:
Fel nodwyd uchod, cysylltir Islwyn yn agos gyda chysyniad y Bardd Newydd oherwydd mai ef oedd prif dylanwad y mudiad;[1][3][4] fodd bynnag nid yw'n Fardd Newydd ei hun fel y cyfryw.
Gwaddol
[golygu | golygu cod]Dominyddwyd cystadleuthau'r Goron ac i raddau llai y Gadair gan y Beirdd Newydd yn ystod yr 1880au a'r 1890au: o'r 17 Coron a wobrwywyd o 1884 tan 1901 (atalwyd y wobr yn 1896), enillwyd 15 ohonynt gan feirdd ar y rhestr uchod; enillwyd 12 Cadair ganddynt dros yr un cyfnod. Fodd bynnag tyfodd yr adwaith yn eu herbyn yn gryf erbyn dechrau'r 20g ac er bod rhai ohonynt yn gymharol ifanc o hyd, ychydig iawn fu buddigoliaethau Eisteddfodol y Beirdd Newydd yn yr 20g (er y llwyddodd J. T. Job i ennill y gadair mor hwyr â 1918). Fodd bynnag, gwasanaethodd aelodau o'r mudiad fel Archdderwydd am gyfnod di-dor o 31 o flynyddoedd: Dyfed (1905-23), Cadvan (1923-24), Elfed (1924-28), Pedrog (1928-32) a Gwili (1932-36).
Ychydig iawn yw bri yr un o'r Beirdd Newydd heddiw. Disgrifiwyd hwy gan Robert Rhys fel "beirdd-bregethwyr maith eu cyfansoddiadau a thraethodol eu dull,"[14] llai caredig oedd Alun Llywelyn-Williams, a ddwedodd amdanynt: "Mae ambell gyfnod yn hanes ein llenyddiaeth Y byddai'n garedigrwydd â phawb pe baem yn ei lwyr ebargofi... Y gwir plaen yw nad oedd y Bardd Newydd ddim yn fardd, nad oedd ganddo glem ar farddoniaeth."[15]
Er bod Robert Rhys yn ystyried Elfed yn fardd o ansawdd uwch na'i gyfoeswyr yn y mudiad, nododd nad oes iddo ef hyd yn oed le o bwys ym marddoniaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif er iddo fyw tan 1953.[14] Arwyddocaol hefyd yw bod gwaith Elfed yn annodweddiadol o'r mudiad mewn rhai ffyrdd; "Aeth y Bardd Newydd heibio heb gymaint a gweled un fflach o lygad awen Elfed", chwedl Dyfnallt Owen.[9]
Crynhodd y Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru y Bardd Newydd fel "un o'r cyfnodau mwyaf trychinebus yn hanes barddoniaeth Gymraeg."[1]
Defnydd Amgen
[golygu | golygu cod]Oherwydd cyffredinolrwydd y term, defnyddir "Bardd Newydd" neu "Beirdd Newydd" weithiau i gyfeirio at ysgolion farddonol eraill, er enghraifft mewn traethawd gan J. E. Caerwyn Williams i gyfeirio at feirdd ysgol John Morris-Jones a ddisodlodd y Bardd Newydd fel y cyfeirir ato fel arfer.[16]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Millward, E.G. (1999) Yr Arwrgerdd Gymraeg: Ei Thwf a'i Thranc, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 Stephens, Meic (1997), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, t.36.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Elphin, "Enwogion Cymru", y Geninen Hydref 1895 tt.262-268; Ionawr 1896 tt.67-78.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 WTE, Cylchgrawn Myfyrwyr y Bala, 1:1, 1900, tt.38-9.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 4.5 4.6 4.7 Tom Parry, "Y Bardd Newydd Newydd", Y Traethodydd 1939, 94(8) tt.169-178.
- ↑ Hughes, Glyn Tegai (2003). Islwyn (Dawn Dweud). Gwasg Prifysgol Cymru. t.276
- ↑ Millward, E.G. (1999) Yr Arwrgerdd Gymraeg: Ei Thwf a'i Thranc, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.
- ↑ 7.0 7.1 7.2 T. J. Morgan, "Pryddestau Buddugol y Ganrif Hon", Y Llenor 1934 tt.227-245.
- ↑ 8.0 8.1 Stephens, Meic (gol.) (1997) Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, t.435
- ↑ 9.0 9.1 J. Dyfnallt Owen, "Coffâd y Parch. H. Elvet Lewis", Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1953, t.118.
- ↑ T. J. Morgan, (1934) 'Pryddestau Buddugol y Ganrif Hon' yn :Y Llenor Cyf.13, y.231
- ↑ https://bywgraffiadur.cymru/article/c-HUWS-JON-1862
- ↑ 12.0 12.1 12.2 Rhys, Robert; 'Llenyddiaeth Gymraeg y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg' yn Geraint Jenkins (gol; 1999) Gwnewch Bopeth yn Gymraeg, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, tt.260-61
- ↑ Alun Llywelyn-Williams, "Y Bardd Newydd" yn Dyfnallt Morgan (gol.), Gwŷr Llên y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, 1968. t268.
- ↑ 14.0 14.1 Rhys, Robert "Llenyddiaeth Gymraeg y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg" yn Geraint Jenkins (gol.) (1999) Gwnewch Bopeth yn Gymraeg, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, t.261
- ↑ Alun Llywelyn-Williams, "Y Bardd Newydd" yn Dyfnallt Morgan (gol.), Gwŷr Llên y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, 1968. t268, 277.
- ↑ (1975) "T. H. Parry-Williams: Oxoniensis", Y Traethodydd Cyf. CXXX (554-557); t.332