Behgjet Pacolli
| Behgjet Pacolli | |
|---|---|
| Ganwyd | 30 Awst 1951 Prishtina |
| Dinasyddiaeth | Cosofo, Y Swistir |
| Galwedigaeth | diplomydd, gwleidydd, person busnes |
| Swydd | Arlywydd Cosofo |
| Plaid Wleidyddol | New Kosovo Alliance |
| Priod | Anna Oxa, Maria Pacolli |
| Gwobr/au | Dostyk Order of grade I, Honor of Nation Order |
| Gwefan | http://www.behgjetpacolli.com/ |
| llofnod | |
Arlywydd Cosofo yw Behgjet Isa Pacolli (ganed 30 Awst 1951) yn Marec, Cosofo. Bu'n Brif Weithredwr cwmni adeiladu o'r Swistir am rai blynyddoedd a dywedir mai ef yw dinesydd mwyaf cyfoethog Cosofo.[1]
Y cyfnod cynnar
[golygu | golygu cod]Tra roedd yn ddisgybl yn yr ysgol uwchradd yn Pristina, bu'n rhaid iddo fyw mewn cwt coed-tân am bedair mlynedd a oedd yn eiddo i deulu o Dwrci gan fynd adre ddwywaith yr wythnos - 80 kilometr yn ôl a blaen - er mwyn nôl nwyddau. Yn 17 oed cyrhaeddodd Hamburg, yr Almaen, heb geiniog yn ei boced, a chychwynodd weithio yn y dociau er mwyn talu ei ffordd. Ar yr un pryd, astudiodd yn y Brifysgol. Dysgodd pum iaith arall yn y dociau.
Ar ôl cyfnod fel milwr cafodd swydd yn gwerthu i gwmni o Awstria, gan werthu i wledydd megis Iwgoslafia, Bwlgaria, Gwlad Pwyl a Rwsia.
Gwleidyddiaeth
[golygu | golygu cod]Ar 17 Mawrth 2006, sefydlodd gynghrair Cosofo Newydd (AKR), a daeth y drydedd blaid mwyaf poblogaidd yn etholiad 2007.
Ers 2004 bu'n weithgar iawn yn dadlau a lobio dros annibyniaeth lwyr i Gosofo.