Beauce
Gwedd
| Math | rhanbarth naturiol, gwastatir |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 48.2°N 1.7°E |
![]() | |
Rhanbarth daearyddol yng ngogledd-ganolog Ffrainc yw Beauce, sy'n ardal amaethyddol arbennig o ffrwythlon. Fe'i lleolir rhwng afonydd Seine a Loire. Mae ganddo arwynebedd o 6,000 km2. Mae'n cynnwys département Eure-et-Loir a rhannau o Loiret, Essonne a Loir-et-Cher. Yr unig ddinas yn y rhanbarth yw Chartres.
