Bawd glicied

Oddi ar Wicipedia
Bawd glicied
Dosbarthiad ac adnoddau allanol
ICD-10 M65.3
ICD-9 727.03
eMedicine orthoped/570

Llid ar yr amwisg ffibrog o gwmpas gewyn bys sy'n achosi i'r bys cloi yn gam yw bawd glicied. Pan ddefnyddir grym i sythu'r bys mae'r llid yn atal y gewyn rhag llithro'n esmwyth yn ôl i mewn i'r amwisg gan achosi sŵn cracio neu glecian. Fel arfer mae lwmp a thynerwch yn safle'r rhwystr. Gellir trin bawd glicied drwy chwistrellu steroid gwrthlidiol o amgylch y gewyn neu gynnal mân lawdriniaeth o dan anesthetig lleol.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Bawd glicied: Diffiniad. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 23 Medi, 2009.