Basilica San Martin de Mondoñedo

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Basilica San Martiño de Mondoñedo, yng Ngalisia.

Eglwys yn nhref Foz, Galisia, yw Basilica San Martin de Mondoñedo. Hon yw eglwys gadeiriol hynaf Galisia a Sbaen. Mae Galisia'n wlad gyda pheth annibyniaeth, ac a elwir yn 'rhanbarth ymreolaethol'. Yn y 9g, roedd yma ddau esgob. Heddiw, yn ogystal a bod yn fan i addoli, mae hefyd yn amgueddfa.[1]

Ond i'r 11g mae'r adeilad presennol yn dyddio, ac fe'i hadeiladwyd mewn dull Romanésg, o ran pensaernïaeth. Cafodd Basilica San Martin de Mondoñedo ei hatgyfnerthu gan fwtresi yn y 18g. Ers 1931 fe'i dynodwyd fel adeilad cofrestredig BIC ac yn 2007 fe'i uwchraddiwyd i fod yn 'fasilica'.[2][3]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Llyfryddiaeth (amlieithog)[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Isidro Bango Torviso, Joaquín Yarza Luaces ac eraill, El Arte románico en Galicia y Portugal / A arte Românica em Portugal e Galiza, Fundación Pedro Barrié de la Maza, 2001, t. 14.
  • Castillo, Ángel del (1987) [1972]. Fundación Pedro Barrié de la Maza, gol. Inventario Monumental y Artístico de Galicia (Inventario de la riqueza monumental y artística de Galicia)[1] (ail argraffiad). A Coruña. tt. 335–336. ISBN 84-85728-62-9.
  • Hipólito de Sá. Monasterios de Galicia, Everest, 1983, tt. 44–50.
  • Villa-amil y Castro, José (ffacsmili: 2005) 1904. Imprenta de San Francisco de Sales (ffacsimili: Gol. Órbigo, A Coruña), gol. Iglesias gallegas de la Edad Media, colección de artículos publicados por (en castelán). Madrid. t. 410. ISBN 84-934081-5-8.